Tudalen 1 o 2

cais dotCYM - deiseb ar-lein

PostioPostiwyd: Mer 18 Hyd 2006 11:32 am
gan Sion Jobbins
Mae cais ar gyfer parth lefel uchaf i gymuned ieithyddol a diwylliannol y Gymraeg, .cym, yn datblygu'n sydyn. Yn fras, mae angen i ni ddangos i weision sifil yn Llundain fod cefnogaeth i'r parth rhag iddynt eistedd arno. Fydd .cym ar gael i wefannau sydd yn y Gymraeg neu sydd mewn iaith arall ond o ddiddordeb Cymreig.

Beth am ymweld a'r wefan http://www.dotcym.org ac arwyddo'r ddeiseb - nawr?

Newydd mynd ar-lein mae'r ddeiseb a'r llofnodydd cyntaf (neu ail) yw neb llai na Amadeu Abril i Abril - prif sylfaenydd ymgyrch lwyddianus puntCAT. Os oes rhai sy'n amau gwerth cael .cym yna mae'n werth i chi ddarllen dogfen Amadeu sydd hefyd ar y wefan. Mae nifer y gwefannau sy'n defnyddio Catalaneg wedi cynyddu gan 33% ers i .cat ddod yn weithredol yn Ebrill eleni.

Cysylltwch a'ch ffrindiau i'w hannog i lofnodi'r ddeiseb,

Os ydych yn aelod o gymdeithas (hanes, cerdded etc), clwb (pel-droed, rygbi etc), mudiad, corff llywodraethol neu gwmni beth am roi cais ger bron eu bod yn cefnogi mewn egwyddor sefydlu parth .cym?

Mae cynulliad Llydaw wedi cefnogi'n unfrydol cais dros gydnabod .bzh. Beth am i chi gysylltu gyda'ch aelod cynulliad lleol yn gofyn iddynt gefnogi cais .cym?

Mae angen i ni ddangos i San Steffan ac aelodau'r Cynulliad fod dotCYM yn bwysig nid jyst fel cydnabyddaieth o'n hunaniaeth ond hefyd fel cyfrwng ar gyfer cynyddu defnydd o'r Gymraeg ar y we a chyfrannu at ei lewyrch hir-dymor.

diolch

PostioPostiwyd: Mer 18 Hyd 2006 12:16 pm
gan Rhys
Yr ymgyrch yn cael ei drafod yma

PostioPostiwyd: Mer 18 Hyd 2006 10:54 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae'r ymgyrch yma yn un pwysig iawn. Dwi'n deall pryderon rhai pobl o ran gwastraffu lot o egni yn ymgyrchu yn hytrach na threulio'r amser yn cynyddu'r nifer o dudalennau Cymraeg sydd ar y we OND wy'n gweld hon yn ymgyrch symbolaidd holl bwysig.

I fi, mae'n ddadl tebyg i'r un dros sianel Gymraeg. Ar y naill law roedd pobl yn dadlai mae cynyddu'r nifer o raglenni Cymraeg oedd yn bwysig ar pa bynnag sianel, ac ar y llaw arall roedd pobl yn dadlai ei fod yn bwysig cael holl raglenni Cymraeg ar un sianel er mwyn cynyddu statws y Gymraeg, fel iaith fodern, blaengar, ym maes technoleg.

Byddai llwyddiant yr ymgyrch 'ma yn rhoi hwb enfawr i'r Gymraeg. Mae'r ymgyrch dros barth .cat wedi bod yn lwyddiant ysgubol, a dwi'n credu fod potensial gwneud yr un peth gyda .cym.

Gweler sylwadau Amadeu Abril i Abril (gwybodaeth amdano yma) ar wefan http://www.dotcym.org:

Amadeu Abril i Abril a ddywedodd:Dydd Mawrth 17 mis Hydref 2006 13:56:04 BSTIf we want a global society based on innovation, creativity and mutual respect, we have the duty of preserving and reinforcing cultural diversity. It is as crucial for humankind as biodiversity is for nature. Cyberspace is just another area where we have to promote cultural pluralism, and one no linguistic group can afford to neglect. A .cym TLD could be a very useful too in order to provide increased visibility and (self-respect for the Welsh linguistic and cultural community on the Net.


http://www.maes-e.cym 8)

PostioPostiwyd: Iau 19 Hyd 2006 9:34 am
gan Mr Gasyth
Gai wneud awgrym i bwy bynnag ddyluniodd y wefan y dylid dod a'r ddeiseb yn nes i'r blaen nag y mae hi? Anodd ei chanfod hyd yn oed tra'n chwilio amdani ar hyn o bryd.

Pob lwc.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 1:18 am
gan Tegwared ap Seion
Ymateb da iawn i'w weld hyd yn hyn - dros 700 o enwau'n barod! Pawb wedi cael yr e-bost cadwyn do?!

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 8:21 am
gan Rhys Llwyd
Beth sy di digwydd i'r Cyman Islands te druan? Tro dwetha i fi glywed am ymgyrch or fath (gan Hedd rhyw 2 flynedd yn ôl dwi'n credu) roedd .cym wedi ei gymryd felly roedd yr ymgyrch yn non-starter ac felly mae .cw oedde ni'n treial ei gael (.cw = Cymru/Wales yn amlwg)

Nawr fod yr ymgyrch wedi troi nol at alw am .cym dwi'n cymryd ei fod nol ar gael ac fod ynysoedd y Cyman wedi symud at rwbeth arall?!

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 8:59 am
gan Mihangel Macintosh
Rhys - .ky ydi TLD Ynysoedd y Cayman.

Os mi all ynys fechan 260 km² gyda phoblogaeth o 45,000 dderbyn parth unigryw gan ICANNA, pam nad oes ganddon ni un?

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 1:01 pm
gan Rhys Llwyd
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Rhys - .ky ydi TLD Ynysoedd y Cayman.

Os mi all ynys fechan 260 km² gyda phoblogaeth o 45,000 dderbyn parth unigryw gan ICANNA, pam nad oes ganddon ni un?


:? o ble ges i syniad yna te? Dwi'n siwr mod i wedi dod ar draws stori debyg rhywbryd.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 1:35 pm
gan Barbarella
Rhys Llwyd a ddywedodd: :? o ble ges i syniad yna te? Dwi'n siwr mod i wedi dod ar draws stori debyg rhywbryd.

O bosib roeddet ti'n meddwl am .cy, sydd wedi'i gymryd gan Cyprus.

<a href="http://en.wikipedia.org/wiki/List_of_Internet_top-level_domains">Rhestr llawn</a>.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 1:42 pm
gan huwwaters
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Rhys - .ky ydi TLD Ynysoedd y Cayman.

Os mi all ynys fechan 260 km² gyda phoblogaeth o 45,000 dderbyn parth unigryw gan ICANNA, pam nad oes ganddon ni un?


Rhaid i rywle gael ryw fath o autonimy. Gan fod Cymru (a'r Alban) yn rhan o'r DU, .uk sy'n cael ei roi iddi. Ond ddim pob tro, fel .arpa a .nato (ar un amser).

Mae rhywle fel Ynysoedd Aland sydd yn ardal autonimous, dal yn rhan o Ffindir sydd efo'r parth .fi, ond efo un ei hun sef .ax .