cais dotCYM - deiseb ar-lein

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan gronw » Mer 25 Hyd 2006 5:41 pm

huwwaters a ddywedodd:Rhaid i rywle gael ryw fath o autonimy. Gan fod Cymru (a'r Alban) yn rhan o'r DU, .uk sy'n cael ei roi iddi.

dwi'n meddwl, os dwi'n cofio'n iawn ac os nad yw pethe wedi newid, mai gwledydd rhydd sy'n gallu cael rhai sy'n diweddu â dwy lythyren, ond bod catalonia wedi cael .cat (tair llythyren, ofiysli) am fod yn "gymuned ddiwylliannol" neu rwbeth tebyg. dyna beth yw'r ymgyrch yma, ymdrech i gael statws tebyg i catalonia ar y we, ie? wedodd rhywun bod angen pwysleisio'r diwylliannol yn hytrach na statws cymru fel gwlad, sôn am iaith a diwylliant ac osgoi trafod ffiniau diwylliannol. ddim yn siwr os yw hyn wir yn bwysig, ond siwr bydd cymry lerpwl wrth eu boddau :D

edrych mlaen yn fawr at .cym! wedi cael hen lond bol ar .uk
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Mwlsyn » Mer 25 Hyd 2006 7:18 pm

gronw a ddywedodd:dwi'n meddwl, os dwi'n cofio'n iawn ac os nad yw pethe wedi newid, mai gwledydd rhydd sy'n gallu cael rhai sy'n diweddu â dwy lythyren...

...a threfedigaethau sydd â chôd ISO 3166-1. Er mwyn cael côd o'r fath,
...a country or territory must be any of the following:

* a United Nations member state,
* a member of any of the UN specialized agencies or
* a party to the Statute of the International Court of Justice.


Dyw Cymru ddim yn un o'r rhain, felly dim côd, felly dim parth 2 lythyren.
Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Postiogan xGeshaPwy?!x » Mer 25 Hyd 2006 9:39 pm

Dwi di arwyddo, ac mai'n mynd yn dda... 1444 o enwau'n barod!
Rhithffurf defnyddiwr
xGeshaPwy?!x
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sul 29 Ion 2006 10:01 pm
Lleoliad: Tre'r Ci Gwyllt!

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 07 Tach 2006 10:34 pm

Gwych iawn. Llongyfarchiadau gyda'r ymgyrch.

Dros 4,000 wedi arwyddo'r ddeiseb arlein yn barod! :ofn: 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 08 Tach 2006 10:18 pm

A mae baneri ar gael i'w rhoi ar eich gwefan, neu yn eich llofnod maes-e nawr, gweler enghraifft isod 8)

http://dotcym.org/index.php?option=com_ ... 26&lang=cy
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: cais dotCYM - deiseb ar-lein

Postiogan aberdarren » Iau 09 Tach 2006 10:43 pm

Sion Jobbins a ddywedodd:Mae angen i ni ddangos i San Steffan ac aelodau'r Cynulliad fod dotCYM yn bwysig nid jyst fel cydnabyddaieth o'n hunaniaeth ond hefyd fel cyfrwng ar gyfer cynyddu defnydd o'r Gymraeg ar y we a chyfrannu at ei lewyrch hir-dymor.


Realpolitik fasnachol yw hwn. Bolycs y Bourgeoisie.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 12 Tach 2006 7:07 pm

Newyddion da o wefan dotCYM 8)

Delwedd
Maredudd ap Gwyndaf, Amadeu Abril i Abril, Siôn Jobbins a Tom Brooks tu allan i swyddfeydd y DTI yn Llundain.

dotCYM yn cwrdd â’r DTI

Cafodd aelodau cais dotCYM gyfarfod diddorol a buddiol iawn gydag Adran Masnach a Diwydiant (DTI) llywodraeth San Steffan ar ddydd Llun 6 Tachwedd 2006. Yn ystod y cyfarfod tair awr trafodwyd cryfderau cais dotCYM dros barth i’r gymuned Gymraeg a Chymreig a nododd y DTI y camau ariannol a strwythurol byddai angen i’r cais ei chyflawni os oedd hi am lwyddo.

Gan mai’r DTI sy’n gyfrifol am y rhyngrwyd ym Mhrydain mae angen i’r cais beidio derbyn gwrthwynebiad yr Adran os yw i lwyddo. Newyddion pwysicaf y cyfarfod felly yw na fyddai’r DTI yn gwrthwynebu cais dotCYM petai’r seiliau ariannol i’r cais yn gadarn a bod cefnogaeth gan y gymuned Gymreig.

Cryfhawyd cyflwyniad cais dotCYM yn fawr gan bresenoldeb deallus a gwybodus Amadeu Abril i Abril, sylfaenydd cais hynod lwyddiannus puntCAT. Hedfanodd Amadeu o Barselona i Lundain yn unswydd i gefnogi achos dotCYM gyda’r DTI. Roedd ei bresenoldeb yn gadarnhad fod rhagolygon dotCYM yn gall a bod cynsail llwyddiannus i’r cais.

‘Roedd deall na fyddai’r DTI yn gwrthwynebu dotCYM yn gam bwysig iawn yn y cyfeiriad iawn. Mae’n golygu nad oes rheswm gan y gymuned ryngwladol i wrthwynebu’n cais,’ meddai Tom Brooks ar ran cais dotCYM.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan 7ennyn » Gwe 17 Tach 2006 6:46 pm

Dwi'n rhagweld y bydd yr ymgyrch yma yn llwyddiannus. Felly, dau gwestiwn:

Faint fyddan nhw'n gostio?

Gai ddau os gwelwch yn dda?


(Unrhyw esgus i *BWP*io'r edefyn yma)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 17 Tach 2006 9:44 pm

Pwyllgor Tŷ'r Cynulliad yn cefnogi dotCYM

Mae Pwyllgor Tŷ'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cefnogi’r alwad am sefydlu parth i’r Gymuned Gymraeg a Chymreig.

mwy...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Sion Jobbins » Iau 30 Tach 2006 1:55 pm

Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cefnogi'r cais nawr hefyd (gw. http://www.dotcym.org) ac wedi rhoi grant ariannol ar gfyer paratoi'r cais.

- gan ychwanegu at Bwyllgor Ty'r Cynulliad, y DTI sydd ddim am wrthwynebu a chyrff fel meddal.com, UCAC etc.
Cymraeg yw Iaith y Ddinas
Sion Jobbins
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 3:36 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron