Madrwyddygryf a ddywedodd:Heblaw am lluniau, mae nhw'n dwyn syniadau bobl eraill hefyd.
Cofio hefyd darllen erthygl tebyg iawn yn Y Cymro a Golwg- Nia Parry (honna sy'n dysgu Cymraeg i ddysgwyr) yn sgwennu...
Doedd o ddim union 'run peth- ond toedd yna ddim gwahaniaeth enfawr chwaith. Pwy oedd ar fai? Y ddynes yma, Y Cymro ta Golwg? Dwn im.
Mae'n siwr gen i fod hyn yn digwydd yn y wasg Saesneg hefyd, ond opan mae'n digwydd yn y wasg gymraeg yna mae'n llawer iawn mwy amlwg- mwy o embaras mewn ffordd.
Y Byd- methu disgwyl (ond dwi hefyd yn credu fod Golwg wedi gwella yn ystod y misoedd dowetha 'ma- rhaid bod yn deg).
Tydi nhw ddim yn euog o newyddiaduraeth ddiog pob tro, chwarae teg. Mae nhw yn gwneud yr ymdrech.