cymro1170 a ddywedodd:Sut mae gwneud hyn Nic?
Mae'r gywilyddus fod y fath beth yn digwydd - mater bach ydi gofyn caniatad
I fod yn deg wrth Golwg, tan heddi ro'n i'n cyhoeddu fy lluniau ar Flickr o dan drwydded lled agored, sy'n gofyn am gydnabyddiaeth yn unig - a dyna beth ges i. Y broblem oedd bod y llun yn un gwael, gyda'u newidiadau nhw yn neud e'n waeth byth, a bod y llun wedi'i ddefynddio ar erthygl doedd Philippa ddim wedi cyfrannu ati, ac wedi neud yn glir doedd hi ddim eisiau. Doedd hi ddim wedi gwrthod gan ei bod hi'n rhyw fath o gymeriad Howard Hughes-aidd, ond gan bod hi ddim yn teimlo ei bod hi wedi ennill ei phlwyf yn y byd barddol hyd yn hyn, a felly ddim yn gyfforddus gyda'r holl sylw yma. Mi oedd hi'n falch iawn, iawn, i ennill cystadleuaeth englyn y mis Barddas, ond mae Golwg yn trin hyn fel ei bod hi wedi ennill yn y Genedlaethol - a fydden nhw wedi wneud cymaint o ffws 'sai hi ddim yn digwydd bod yn Saesnes sy wedi (20 mlynedd yn ôl, bellach) dysgu'r iaith?
Digwyddodd rhywbeth tebyg i fi, amser hyn y llynedd. Oedd Golwg wedi penderfynnu rhedeg erthygl amdana i, ond erbyn i mi glywed am y peth o'n i yng nghanol symud t? - yn llythrennol, ces i'r galwad ffôn tra o'n i'n llwytho bocsys yn y lori symud. Gofynnais i iddyn nhw beidio rhedeg yr erthygl nes bod amser 'da fi ateb eu cwestiynau yn iawn (diwrnod ar ôl i mi symud, es i bant am benwythnos, ar daith Van der Graff) ond yn lle aros wythnos, wnaethon nhw redeg y "portread" gan ddweud mod i'n person reclusive sy ddim yn fodlon ateb cwestiynau'r wasg. A defynddion nhw llun ffeindiwyd ar Flickr, heb fy nghaniatâd.