Lleolieddio gwefannau i'r Gymraeg

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lleolieddio gwefannau i'r Gymraeg

Postiogan Rhys » Gwe 27 Hyd 2006 11:33 am

Allwch chi helpu?

Mae Robert Andrews wedi cysylltu â fi ynglyn â lleoleiddio a sut mae Cymry Cymraeg wedi cymeryd at wefannau Web2.0 (blogs, flickr, wiki's ayyb)

Dwi wedi crybwyll bod y canlynol wedi/wrthi'n cael eu cyfieithu:
phpBB, Wordpress, Pledgebank, Firefox, Thunderbird, OpenOffice, Linux / LibraryThing, phpAds

-Ydw i wedi gadael rhywbeth allan?

-Beth yw eich barn chi am y broses cyfieithu a faint o ddefnydd o'r Gymraeg sydd yna ar wefannau 'Rhwydweithio Cymdeithasol'.


Diolch


Gol
.

Mae'n ymddangos bod Robert wedi ysgrifennu'r erthygl yn barod a bydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan. Gan bydd ar ffurf electroneg, dwi'n credu bydd modd gadael sylwadau ar waelod y'r erthygl. Mi wnai bostio'r ddolen yma.

Yn y cyfamser mae croeso i chi barhau gyda'r pwnc yma os hoffech.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Gwe 27 Hyd 2006 4:05 pm

Dyma'r erthygl: Welsh Web2.0

(Dylwn i ddysgu ail-ddarllen fy e-byst cyn eu hanfon - mae'r bit am gyfiiethu ar ben eich hun ac yn wirfoddol yn swnio braidd yn dwp)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 27 Hyd 2006 4:26 pm

Ma na fersiwn cymraeg o'r rhaglen FTP Cyberduck. Diolch i Babs am ei gyfiethu.

Faint o'r rhaglenni yma sydd ar gael ar gyfer Mac? Dwi ddim yn meddwl fod Thunderbird Cymraeg ar gael er engraifft.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Lleolieddio gwefannau i'r Gymraeg

Postiogan Rhysjj » Sul 29 Hyd 2006 5:40 pm

Rhys a ddywedodd:Dwi wedi crybwyll bod y canlynol wedi/wrthi'n cael eu cyfieithu: phpBB, Wordpress, Pledgebank, Firefox, Thunderbird, OpenOffice, Linux / LibraryThing, phpAds


Llwyth o bethau Linux yn ogystal â KDE (gafodd ei grybwyll yn yr erthygl). Mae GNOME wedi ei gyfieithu, ac hefyd y prif ddosbarthiadau Linux sy'n seiliedig ar GNOME, sef Ubuntu, Fedora a Mandrake.

I ddyfynnu o'r erthygl:

"Even though there are 2,300 members on Maes-e... it's still only a franction (sic) of Welsh speakers."


Ond mae 2,300 o aelodau yn rif sylweddol iawn os cofiwn ni taw tua 575,000 yw uchafswm aelodaeth maes-e (h.y. y nifer o siaradwyr Cymraeg). Os cymrwn ni taw tua 1% o boblogaeth Prydain sy'n medru'r Gymraeg, mae Maes-e'n gymharol â safle Prydeinig a chanddi <i>chwarter miliwn</i> o aelodau. Wn i ddim am safle mor boblogaidd â hynny yn y cyd-destun Prydeinig (ar wahan i Myspace efallai...)
Rhysjj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 58
Ymunwyd: Llun 22 Maw 2004 1:34 am
Lleoliad: Y De a'r Gogledd

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 30 Hyd 2006 10:55 am

Ma na siap ar gyfieithiad o Drupal gen i ond dio heb gael ei ryddhau eto. Dal angen yr amser i jecio fo.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan nicdafis » Llun 30 Hyd 2006 12:43 pm

Erthygl dda iawn, o'n i'n meddwl. Doedd y peth am gyfieithu ar dy ben di hun ddim yn dwp o gwbl.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys » Llun 30 Hyd 2006 2:36 pm

Oni bai am Meddal.com (sydd heb ei ddwieddaru ers tipyn - wps, newydd ymweld ac mae diweddariadau:wps: ), oes lle arall ar y we sy'n clymu holl gyfieithiadau Cymraeg at eu gilydd?

Y rheswm dwi'n gofyn yw gan fod Robert Andrews wedi awgrymu wiki mae newydd daflu at ei gilydd yn gyflym. Dwi wedi ychwanegu manylion am gyfieithiad Tagzania, ond dwi ddim am dreulio gormod o amser arno ar hyn o bryd.

Beth ydi eich barn chi am wiki o'r fath?

1. Yn gyntaf oes angen y fath beth (gan gymeryd nad oes un yn barod)?

Dwi'n meddwl bod, gan y byddai'n hawdd i unrhyw un gyfrannu at a byddai'n fodd i bobl ofyn am help i gyfieithu a gwiro.

2. Dylai fod yn Gymraeg yn unig / ac ar feddalwedd wiki sydd wedi ei leoleiddio i'r Gymraeg?

Dwi'n amau fyddai pobl sy'n treulio amser sbar yn cyfieithu gwefannau i'r Gymraeg eisiau trafferthu cyfieithu wiki o'r fath i'r Saesneg - er bod eisiau gadael i'r di-Gymraeg wybod beth sy'n digwydd yn y maes.

O ran meddalwedd, dwi ddim yn or-hoff o ymddangosiad Wetpaint, ond mae'n hawdd iawn ei ddefnyddio. Dwi wedi bod yn edrych ar pbwiki.com, sydd yn caniatau lleoleiddio eu tydalennau cymorth o leiaf. Dwi wedi dechrau at yr un Cymraeg.

3. Fyddai chi, fel rhai sydd wedi/wrthi'n cyfieithu yn cyfrannu at y fath wiki?
Neu fyddai'n wastraff o amser a ellir ei dreulio'n well yn gwneud cyfieithu pellach?



Ychydig oddi ar y pwnc, ond dal yn berthnasol.....
Beth sydd bwysicaf; Y cynnwys neu Iaith y rhyngwyneb?

Dwi wedi rhyw hanner dechrau wiki: http://www.eisteddfod2007.pbwiki.com Dwi'n meddwl bod syniad y wiki yma'n un da (wl mi faswn i, yn baswn!) ond dwi ddim yn siwr faint fyddai'n cyfrannu ato, yn arbennig gan bod angen elfan o wybodaeth/cyfraniad lleol iddo lwyddo. Byddai un ar gyfer Eistddfod 2008 yng Nghaerdydd yn depycach o lwyddo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron