Tudalen 1 o 1

Cymreigio myspace

PostioPostiwyd: Gwe 27 Hyd 2006 4:28 pm
gan Mihangel Macintosh
Gan fod pob band Cymraeg bellach ar myspace - a nifer fawr o Gymru Cymraeg yn ogystal, oes gan rhywun fynedd i gyfieithu'r rhyngwyneb?

Gellir creu rhyngwyneb dwyieithog a un-iaith Gymraeg.

Unrhyw wirfyddolwyr?

Re: Cymreigio myspace

PostioPostiwyd: Gwe 27 Hyd 2006 4:51 pm
gan dafydd
Gwell gofyn y cwestiwn.. ydi e'n bosib? Dim ond Ffrangeg ac Almaeneg mae nhw'n gynnig a nhw wnaeth gyfieithu rheina am fod marchnad mawr iddyn nhw yn Ffrainc/yr Almaen.

Re: Cymreigio myspace

PostioPostiwyd: Gwe 27 Hyd 2006 5:43 pm
gan Barbarella
dafydd a ddywedodd:Gwell gofyn y cwestiwn.. ydi e'n bosib?


Mae yn bosib, ond mae'n ffwc o hasl.

Ti'n iawn, dwi'm yn credu am eiliad bydd maispais yn cyfieithu unrhywbeth eu hunain.

Ond dwi di sgrifennu sgript sy'n cyfieithu'r testun on-ddy-fflai wrth lwytho, sef y gorau wnawn ni am nawr.

Y broblem yw bod Maispais ddim yn caniatau cynnwys javasgriptiau. Ond mae nhw *yn* caniatau ffeiliau Fflash, sydd yn eu tro yn gallu llwytho sgriptiau. Felly gweithio ar hwnna ar y funud...

Re: Cymreigio myspace

PostioPostiwyd: Gwe 27 Hyd 2006 6:14 pm
gan dafydd
Barbarella a ddywedodd:Y broblem yw bod Maispais ddim yn caniatau cynnwys javasgriptiau. Ond mae nhw *yn* caniatau ffeiliau Fflash, sydd yn eu tro yn gallu llwytho sgriptiau. Felly gweithio ar hwnna ar y funud...

Dwi'n gweld.. pa mor hir cyn fyddan nhw'n cau'r twll hynny :) Mae cod MySpace mor wael, fasen i ddim yn trystio unrhyw wybodaeth iddo. Roedd hi'n bosib darllen negeseuon preifat unrhywun un tan yn ddiweddar iawn...