Dwi'n gadael fy hun yn agored i dipyn o wawdio fan hyn, ond gan bod y boi di mynd i'r drafferth, mae adran Gymraeg i fforwm oddi ar wefan BB Aled.
Darllen amdano ar flog ForumWales wnes i......onest
Chwarae teg iddo dduda i, er mae'r adran braidd yn dawel ac mae hanner y post gan Saeson diniwed yn postio negeseuon yn Gymraeg mae'nt wedi eu cyfieithu drwy wefannau cyfieithu
Dolen ddiddorol o'i wefan yw Sausage in a Cottage, sef cwmni animeiddio o ogeldd ddwyrain Lloegr, ble mae 1 (os nad 2) o'r tri perchennog yn siaradwyr Cymraeg