Blogiau Cymraeg - Blogging a Dead Horse?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blogiau Cymraeg - Blogging a Dead Horse?

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 10 Ion 2007 12:44 pm

Dros y misoedd dwetha dwi wedi sylwi fod fy rhestr bloglines Cymraeg wedi bod yn hynod o dawel. Mae sawl blog a fu yn brysur wedi tawelu'n gyfangwbl a rhai eraill wedi slofi lawr yn sylweddol.

Ydan ni'n gweld dechra diwadd blogia Cymraeg neu ydi hwn jest yn arwydd o bôrdym efo blogiau'n gyffredinol?

Mae cymaint o wahanol ffyrdd rwan o fynegi eich hun ar y we, a hynny o fewn cymdeithas ar-lein fod hi'n anorfod fod blogiau am slofi lawr yn eu poblogrwydd, ond dwi'n tybio taw blogiau fydd yn parhau i fod y cyfrwng i fynegi barn. Mae podcasts wedi colli ffafriaeth gyda dyfodiad YouTube a'r Nano ac mae MySpace wedi llwyddo i osod ei farc, er fod y system yn erchyll.

Neu ydi pawb jest wedi sylwi ei bod hi'n braf tu allan ac wedi mynd allan i wneud rhywbeth-mwy-diddorol-yn-lle*?

*Wnaiff unrhywun gafodd eu geni ar ôl 87 ddim dallt hwn debyg...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Mr Gasyth » Mer 10 Ion 2007 1:09 pm

Dwinnau wedi sylwi ei bod hi'n dawelach hefyd, a wedi bod braidd yn dawel fy hun tan wythnos yma. Ma'n beryg fod y 'craze' gwreiddiol lle oedd pawb yn cychwyn blog drosodd, ac mai dim ond rhai fydd yn goroesi.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan eusebio » Mer 10 Ion 2007 1:24 pm

Roedd fy mlog yn ddistaw iawn dros gyfnod y Nadolig, ond roedd hynny oherwydd prysurdeb bywyd go iawn ...

... mae nifer o flogiau Saesneg roeddwn yn darllen yn aml wedi diflannu hefyd, felly nid ffenomenon Gymraeg ydi hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan dafydd » Mer 10 Ion 2007 1:30 pm

Mae nifer o bobl yn blogio ar Maespeis erbyn hyn hefyd. Mae hyn yn llwyth o gach, wrth gwrs. Dyw hi ddim yn bosib dod o hyd i rhain mor rhwydd a blogiau 'go iawn' drwy technorati a google. O leia erbyn hyn mae porthiant RSS ar y blogiau.

Ac oherwydd naws anglo-americanaidd y wefan yn gyffredinol, mae Cymry Cymraeg sydd arno yn llawer fwy tebygol o flogio/sgwrsio/negesu yn yr iaith fain. Ond os allwch chi ddod o hyd iddyn nhw mae yna rai perlau, e.e. colofn Ian Cottrell neu bandiau fel Plant Duw
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Rhys » Mer 10 Ion 2007 1:30 pm

Dwi wedi sylwi ar lai hefyd, a thra dwi'n dal i ddarllen blogiau'n dyddiol, dwi'n blogio'n llai aml, er bod gennyf ddigon o pyst arfaethedig yn fy mhen.

Dwi ddim yn siwr os mai'r holl wefannau rhwydweithio cymdeithasol (cyfieithiad slafaidd braidd) eraill yw'r rheswm, mwy fel pobl yn diflasu. Mae'r un patrwm i'w weld yn llawer o'r blogiau di-Gymraeg dwi'n ddarllen.

Beth sy'n dda am Bloglines yw, hyd yn oed os yw blog wedi bod yn dawel am rhai misoedd, ond fod o'n dal ar eich rhestr, yna cewch wybod yn syth os yw rhywun yn ail ddechrau.

Dwi'n meddwl y nifer o Gymry Cymraeg sy'n postio ar Flickr yn is nag oedd o hefyd.

Oeddan/Ydan ni'n wirioneddol meddwl byddai ni/pobl yn blogio/Flickro am byth?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Mer 10 Ion 2007 1:43 pm

Rhys a ddywedodd:Oeddan/Ydan ni'n wirioneddol meddwl byddai ni/pobl yn blogio/Flickro am byth?


Pam lai? Fe gadwodd rai o'n cyn-deidiau ddyddiaduron/albynau lluniau gydol eu hoes...
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys » Mer 10 Ion 2007 1:52 pm

Wel, hoffwn i feddwl y bydda i, ond pwy a wyr?
Mewn ffordd dwi'n teimlo bod rhyw fath o gyfrifoldeb i'r degau/cannoedd sy'n aros yn eiddgar am fy nghyflenwad diweddara o eiriau doeth :?

Ond dwi, fel sawl un dwi'n siwr yn manteisio ar adnoddau gwaith i flogio :wps:, petawn ddim gyda'r mynediad yma, byddwn yn blogio llawer llai aml mae'n siwr. Petai gynnai blant, bydde gynnai lot llai o amser sbar i flogio, ac efallai daw rhyw 'craze' arall i gymeryd fy mry. Hoffwn gyfrannu ar Wicipedia a Wikipedia, ond allai'm gwneud popeth - ar hyn o bryd mae'n well gynnai flogio.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Mer 10 Ion 2007 2:01 pm

Dwi'n meddwl mai prif bwrpas y blog-bwm odd tawelu meddwl y Cymru Cymraeg ein bod ni'n gallu gwneud y dechnoleg newydd 'ma gystal a gweddill y byd.

Y problem ydi, wrth i amser fynd yn ei flaen mae technoleg yn mynd yn fwy cymhleth a dim ond ychydig o bobol sy'n gwybod beth i'w wneud gyda fo. Wrth i flogiau droi'n podcasts a wedyn ffilmiau byr does dim modd dibynnu ar frwdfrydedd yn unig - pwy all fforddio'r dechnoleg i wneud ffilmiau diddorol a'u rhoi ar y we?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 10 Ion 2007 2:02 pm

Rhesymau ymarferol (h.y. dim cyfle i fynd ar y we yn ystod amser hamdden) sydd wedi arwain at dranc fy mlog i, ond rwy'n gobeithio ailafael yn y peth cyn hir.

Wedi dweud hynny, roedd sgwennu yn dechrau mynd yn strach, gan deimlo 'mod i'n gorfodi fy hun i sgwennu rhywbeth yn hytrach na 'mod i'n mynd ati mas o fwynhad at y sgwennu ei hun. Sai moyn i sgwennu blog fod yn ddyletswydd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan eusebio » Mer 10 Ion 2007 2:10 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:Oeddan/Ydan ni'n wirioneddol meddwl byddai ni/pobl yn blogio/Flickro am byth?


Pam lai? Fe gadwodd rai o'n cyn-deidiau ddyddiaduron/albynau lluniau gydol eu hoes...


Aye - cytuno'n llwyr, mae fy nghyfrif Flickr yn sicr yn brysurach nag erioed.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai