Dros y misoedd dwetha dwi wedi sylwi fod fy rhestr bloglines Cymraeg wedi bod yn hynod o dawel. Mae sawl blog a fu yn brysur wedi tawelu'n gyfangwbl a rhai eraill wedi slofi lawr yn sylweddol.
Ydan ni'n gweld dechra diwadd blogia Cymraeg neu ydi hwn jest yn arwydd o bôrdym efo blogiau'n gyffredinol?
Mae cymaint o wahanol ffyrdd rwan o fynegi eich hun ar y we, a hynny o fewn cymdeithas ar-lein fod hi'n anorfod fod blogiau am slofi lawr yn eu poblogrwydd, ond dwi'n tybio taw blogiau fydd yn parhau i fod y cyfrwng i fynegi barn. Mae podcasts wedi colli ffafriaeth gyda dyfodiad YouTube a'r Nano ac mae MySpace wedi llwyddo i osod ei farc, er fod y system yn erchyll.
Neu ydi pawb jest wedi sylwi ei bod hi'n braf tu allan ac wedi mynd allan i wneud rhywbeth-mwy-diddorol-yn-lle*?
*Wnaiff unrhywun gafodd eu geni ar ôl 87 ddim dallt hwn debyg...