Tudalen 2 o 6

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 2:34 pm
gan Chwadan
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Wedi dweud hynny, roedd sgwennu yn dechrau mynd yn strach, gan deimlo 'mod i'n gorfodi fy hun i sgwennu rhywbeth yn hytrach na 'mod i'n mynd ati mas o fwynhad at y sgwennu ei hun. Sai moyn i sgwennu blog fod yn ddyletswydd.

Cytunaf â'r Gwahanglwyf. Ond dwi di cael rhyw bwl o hunan-ymwybyddiaeth sy'n gneud fi feddwl 'mod i'n idiot ymhongar bob tro dwi'n blogio. Ma fwy na thebyg yn wir :rolio:

O ia, a mae gen i adicshyn i facebook a di hynna'm yn helpu.

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 2:51 pm
gan Rhys Llwyd
Ysbeidiol yw fy mlogio i a dyna sut dwi di bod ers y dechrau, fuesi byth yn flogiwr dyddiol. Hefyd prysurdeb fy mlog yn adlewyrchu cynwrf cyffredinol yn fy mywyd; felly os dir blog yn dawel am rai wythnosau e.e. gorffenaf/awst y tebygrwydd yw mod i wedi bod yn gweithio mewn swyddfa 9-5 ac felly nad oedd unrhywbeth diddorol fel protestiadau etc... gyda fi adrodd amdanynt.

Er yn blogio llai nawr dwi'n neud ymdrech i fod yn fwy amrywiol a llai o adrodd fy hanes fy hun. Bydda i'n blogio am flynyddoedd i ddod tybiaf - maen debyg iawn mae fy mhostiaid olaf fy cyhoeddi genedigaeth fy mhlentyn cynta haha!

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 2:57 pm
gan eusebio
Rhys Llwyd a ddywedodd:... maen debyg iawn mae fy mhostiaid olaf fy cyhoeddi genedigaeth fy mhlentyn cynta haha!


Pam? Mae gen i ddau o blant a dau gath, a dwi'n dal i flogio ;)

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 3:05 pm
gan Sili
Chwadan a ddywedodd:O ia, a mae gen i adicshyn i facebook a di hynna'm yn helpu.


Hehe, dwi'n cydymdeimlo'n llwyr, mae'r peth wedi dwyn bywyda nifer o fy ffrindia erbyn hyn (dim fi wrth gwrs...) :wps:

Dwi heb flogio ers cyn Dolig (er mod i'n reit siwr nad oes na fawr o neb yn darllen o beth bynnag). Cyfuniad o symud n'ol i'r brifysgol, arholiada, diffyg mynadd/pwnc diddorol i'r blog ayyb ond dwi'n reit ffyddlon i'r cyfrif flickr dal i fod ac yn dueddol o bostio llunia'n reit fuan wedi eu tynnu.

Dwi dal yn mwynhau darllen y blogiau eraill fodd bynnag. Gobeithio gai amser i ail-gydio yndda fo'n fuan :?

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 4:04 pm
gan Wierdo
dwi heb flogio ers cyn dolig chwaith, ond dwi heb fod ar y we. Dwin casau my nd ar y we adra, mai rhu oer. Ond wan dwi nol yn Aber a ma gin i laptop a lo o waith felly fyddai nol yn blogio cyn pen dim.

Dwi dal yn gaeth i flogio...

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 4:57 pm
gan Mr Gasyth
Wierdo a ddywedodd:Dwin casau my nd ar y we adra, mai rhu oer.


Ai fi sy'n chwilfrydig, ynteu ydi'r datganiad yma jest yn mynnu'r cwestiwn PAM? Ma jest rhaid fi gal gwbod lle ma cysylltiad gwe y teulu Weirdo!

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 5:07 pm
gan Wierdo
Hehe, sori, dwin disgwl i bawb ddallt yn syth be onin son am!

Ma'r cyfrifiadur adra yn yr ystafell gefn a main oer na. Well gin i isda o flaen y tan yn yr ystafell fyw! Ond yn Aber ma gin i wireless felly dwin byw ar y we ac yn bloigio'n aml o dy cynnes central heated!

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 5:20 pm
gan nicdafis
Dw i wedi sylwi mod i'n blogio'n wahanol i'r ffordd o'n i'n arfer - llai o flogiadau yn sicr - ond dw i'n tueddu defnyddio del.icio.us am bethau fyddwn i wedi wneud postio amdano ar morfablog nôl yn y dydd.

Mae Dogfael yn neud gwaith 12 o flogwyr normal, ta beth. Dim byd i boeni amdano nes iddo fe roi'r ffidl yn y to.

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 5:45 pm
gan eusebio
nicdafis a ddywedodd:... ond dw i'n tueddu defnyddio del.icio.us am bethau fyddwn i wedi wneud postio amdano ar morfablog nôl yn y dydd.


Ia, dwi wedi bod yn ystyried gwneud hyn hefyd ...

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 7:04 pm
gan gronw
Sili a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:O ia, a mae gen i adicshyn i facebook a di hynna'm yn helpu.

Hehe, dwi'n cydymdeimlo'n llwyr, mae'r peth wedi dwyn bywyda nifer o fy ffrindia erbyn hyn (dim fi wrth gwrs...)

yn ddiweddar mae pawb yn son am facebook, hyd yn oed pobl dwi ddim yn meddwl amdanyn nhw fel pobl sy ar y we constantly (dim bod dim byd yn bod ar hynny chwaith wrth gwrs, flogwyr). dwi erioed wedi cael cymaint o "invite to join" ar gyfer dim byd a dwi wedi cael i facebook yn y chwech wythnos dwetha. falle mai dyma'r Peth Mawr Nesaf? heb ymuno eto, ddim ar y we mor aml ag y bues i.