Tudalen 3 o 6

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 1:55 am
gan Rhys Llwyd
mae podledu yn fater cwbwl wahanol eto cofiwch. Hwnw yn sicr heb gydio. Flwyddyn yn ôl ro ni'n dilyn rhyw dri podlediad yn ffyddlon ac yn rhedeg un fy hun. Roedd rhedeg un fy hun yn ormod o waith - roedd ei roi at ei gilydd yn cymryd oddeutu diwrnod o dy amser ac felly toedd o ddim ei werth o.

O ran gwrando - yr hyn o ni'n gneud oedd is-lwytho podlediad dyddiol y Guardian neu'r Telegraph a gwrando arno ar yr iPod wrth gerdded i'r dre i nol cinio o gwaith. Y broblem yw fod fy lifestyle wedi newid a prin bod gena i 30+ munud rhydd ar ben fy hun yn y dydd lle galla i jest cerdded a phodlediad yn fy nghlustiau. Fod bynnag petaw ni'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am hanner awr yn bore a hanner awr yn prhynhawn mi fasw ni heb os yn ddefnyddiwr cyson o bodlediadau - jest dio ddim yn ymarferol i fi ar hyn o bryd!

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 10:35 am
gan Griff-Waunfach
Cefais iPod am y dolig, a dwi just wedi dod ar draws podlediadau, a diw'n lawrlwytho podlediad y Guradian, a dwi rili yn meddwl bod nhw yn pethau handi. Er dwi'n deall fod angen yr amser i gwrando arnyn nhw, rhai dyddiau sai'n cale amser i'w grando arno.

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 11:39 am
gan Rhodri Nwdls
Rhys Llwyd a ddywedodd:mae podledu yn fater cwbwl wahanol eto cofiwch. Hwnw yn sicr heb gydio. Flwyddyn yn ôl ro ni'n dilyn rhyw dri podlediad yn ffyddlon ac yn rhedeg un fy hun. Roedd rhedeg un fy hun yn ormod o waith - roedd ei roi at ei gilydd yn cymryd oddeutu diwrnod o dy amser ac felly toedd o ddim ei werth o.

Dyma yw beth sy'n gwneud blogio mor hawdd. 5 munud ma'n gymryd i sgwennu cofnod, tra bo gwneud rhywbeth i YouTube neu podcast yn cymryd dipyn mwy o waith os am wneud rhywbeth call (ddim bo fi rioed di gwneud fideo call, ond stori arall di honno).

Fydd blogio siwr o fod yn para tra bod pobol isio darllen cynnwys difyr ar y we. Mae'n nhw'n dal i fod y ffordd hawsaf i gyhoeddi ac yr hawsaf i'w dilyn.

Ma petha jest yn cyrraedd plateau wrth i gyfryngau cyfathrebu ar y we diversiffeio (wawi, Cymraeg gwych!) ac i bobol ffeindio ffyrdd ehangach i siarad shit i wagle :winc: .

Be mae hyn yn oygu i Gymreigrwydd y Rhithfro dwn im. Di'n haws ffeindio cynnwys Cymraeg mewn blogiau nac ar MaesPeis? Yndi. Ydi MaesPeis yn gwthio pobol i wneud stwff yn ddwyieithog? Yndi. Ydi Maespeis yn hybu cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd? Yndi.

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 11:51 am
gan eusebio
Efallai byddai'n helpu i gael rhestr o'r blogwyr sydd dali flogio'n rheolaidd yn y Gymraeg ar ein blogs yn lle rhestr hir o lincs i flogs sydd heb eu diweddaru.

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 12:42 pm
gan Cardi Bach
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Dyma yw beth sy'n gwneud blogio mor hawdd. 5 munud ma'n gymryd i sgwennu cofnod.


Yn anffodus o'n i ddim yn gweld e fel hyn :(
O'n i di dechre blog - gwleidydd.blogspot.com ac mi barodd e am rhyw ddau neu dri mis, ond odd e'n cymryd gyment o amser i wirio ffeithiau, gwneud yr ymchwil angenrheidiol etc, fel odd e jyst yn cymryd lot gormod o amser, yn anffodus. Wy'n derbyn nad ar gyfer erthyglau o'r fath y crewyd 'blogs', ond dyna fy natur i'n anffodus - alla i ddim a jest cofnodi rhwbeth mewn brawddeg. Hefyd blogiau o'r fath wy'n dieddol o ddarllen fy hunan hefyd, wy ddim yn lico darllen dyddiaduron neu sylwadau pobl am eu bywydau personol, ma'n well da fi ddarllen rhwbeth mwy...'informative'.

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 12:46 pm
gan huwwaters
Buasai modd i flogiau allu pingio'r rhithfro pob tro mae blog yn cael ei ddiweddaru? Wedyn bydd modd gweld pwy sydd wedi diweddaru yn yr wythnos olaf etc.?

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 1:15 pm
gan tafod_bach
gai ymddiheuro am fod yn crapflogyddes ers graddio - dwisio rhannu fy insights diddorol, unigryw ac entertaining ond dwi'n rhy god-damn diog i sortio'r we allan yn y ty newydd. BYS MAS. neges i fy hun ac i'r 'rith'-fro.

swsus mawr

xx

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 1:38 pm
gan Griff-Waunfach
Hey tafof_bach, shwt ces ti 'make povert history' banner ar y wefan?

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 3:18 pm
gan Dwlwen
Griff-Waunfach a ddywedodd:Hey tafof_bach, shwt ces ti 'make povert history' banner ar y wefan?

http://www.makepovertyhistory.org/getinvolved/banners.shtml

Parthed pwnc yr edefyn... Bois, ni i gyd yn nabod ein gilydd! Me'n ddigon diflas* eich gweld chi ar ôl i chi gael pwl wrth dynnu stwff o'r hors ddillad, heb sôn am ddarllen amdano fe bore wedyn :winc: (A ma hyd yn Chris Cope yn byw rownd gornel dyddie 'ma! :rolio: )

Erbyn hyn, wy'n defnyddio'r blog fell ffordd o basio neges 'mlaen (gewn ni fore coffi i drafod y stwff mwy 'dyddiadurol' odd yn arfer ymddangos 'na... :wps: ) Dyw e ddim fel 'se neb yn colli mas, na!

Nagyw e'n gyffredinol wir bod sgwennwyr (a darllenwyr) blogie yn colli diddordeb ar ol ychydig fisoedd ta beth? Yw hwn wir yn 'broblem' mwy difrifol na 'nny...? Hyd y gwela i, ma'r selogion (e.e. Nic, Rhys, Dogfael :o ) dal yn selog. A ma dal digon o gyfraniadau achlysurol gan Kymro Kanol, Iesu Nicky, a hyd yn oed Diota i bicio draw atyn' nhw os oes awydd codi gwên (ma Ray yn deall sut i osod dolenni nawr a phopeth :ofn: )

Nwdls a ddywedodd:Ma petha jest yn cyrraedd plateau wrth i gyfryngau cyfathrebu ar y we diversiffeio (wawi, Cymraeg gwych!) ac i bobol ffeindio ffyrdd ehangach i siarad shit i wagle.

Yyyy, ie, beth wedodd e... a hefyd wrth i flogau a chyfryngau cyffelyb gyflawni eu potensial am ddod â <strike>gîcs</strike> phobl dieirthr at 'i gilydd, fel bo nhw'n gallu siarad shit wyneb i wyneb, mewn bar ar faes yr Eisteddfod, yn lle :winc:

*Wy'n gelwyddgi - yr anaf hors ddillad oedd un o ddigwyddiadau lleia' diflas 2006, ac yn wir, fy mywyd.

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 3:25 pm
gan Rhys
eusebio a ddywedodd:Efallai byddai'n helpu i gael rhestr o'r blogwyr sydd dali flogio'n rheolaidd yn y Gymraeg ar ein blogs yn lle rhestr hir o lincs i flogs sydd heb eu diweddaru.


Dwi'n darllen blogiau trwy bloglines.com
Unwaith chi'n creu cyfrif, mae'n debyg iawn i'r Blogiadur (ond fi sy'n dewis pwy sydd ar y rhest) gyda'r pyst diweddar yn ymddangos ar yr ochr dde. Ar yr ochr chwith mae'r rhestr blogiau - gyda'r rhai sydd wedi'u diweddaru yn ymddangos mewn bold.
Fel y gwelwch o'r llun sgrîn,
Geiriau Gwyllt Ray Diota
Golygon Gasyth (1)
Gwawr Niwclear
Gwenllian Glyn (5)
Gwenu dan Fysiau (2)

Gweriniaeth y Gweithwyr

mae'n glir pa rai sydd di diweddaru, gyda'r nifer o byst newydd mewn cromfachau

Ond beth yw'r ots os oes na restr o flogiau heb eu diweddaru ar y Blogiadur gan fod y pyst diweddaraf yn ymddangos yn y prif ffenest?

Os mai Rhithfro.com ydych yn cyfeirio ato, dwi'n meddwl dod ei oes wedi dod i ben (er mae Aled yn gweithio ar rhywbeth newydd dwi'n meddwl). Gweldd fyddai creu Blogroll (rhestr blogiau) eich hunain
[eto, mae Bloglines yn cynnig côd i chi osod ar eich blog, fel bod eich blogroll yn cael ei ddiweddaru fel rydych yn dileu/ychwanegu blogiau ar eich cyfrif]