Tudalen 4 o 6

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 3:43 pm
gan Hogyn o Rachub
Dw i'n meddwl bod pethau'n tawelu achos bo'r novelty wedi mynd i lot o bobl (ychydig fel Maes E, efallai, sy wedi tawelu'n uffernol dros y flwyddyn ddiwethaf?). Y peth ydi, roedd a mae nifer o flogiau Cymraeg yn cylchdroi o amgylch aelodau Maes E, a fel bo'r Maes yn tawelu efallai bo hwynt hefyd.
Roedd 'na ffrwydrad cyntaf o flogiau, gyda tri chwarter o'r rheiny'n dod i ben ymhen chwe mis, a fe fu un arall hefyd, ond prin y parhaodd hwnnw, chwaith.

Neu efallai bod blogiau Cymraeg wedi jyst mynd yn boring? Wn i ddim - ydi'r safon wedi gostwng fel bo llai o bobl efo diddordeb?

Wn i ddim a oes rhywun arall yn sylweddoli ond mae'r nifer o ymwelwyr blogiau i'w gweld yn tawelu. Ond efallai na dim ond oherwydd bo 'Dolig wedi bod ydi hynna a'n bod ni'n ffysian am ddim byd. Yr unig bobl sy'n ymwelad a'n un i dyddiau hyn ydi pobl sy'n teipio 'gibbon' mewn i Google Images! :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 12:48 pm
gan AFFync
Dwi yn fy chweched mis o flogio yn y Gymraeg
http://melysion.blogspot.com/

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 12:37 am
gan eusebio
eusebio a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:... ond dw i'n tueddu defnyddio del.icio.us am bethau fyddwn i wedi wneud postio amdano ar morfablog nôl yn y dydd.


Ia, dwi wedi bod yn ystyried gwneud hyn hefyd ...


Wedi gwneud hyn, ond, wrth gwrs, tydy hyn ddim yn ei gofnodi fel cofnod newydd ar y blogiadur :(

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 10:40 am
gan Rhys
eusebio a ddywedodd:Wedi gwneud hyn, ond, wrth gwrs, tydy hyn ddim yn ei gofnodi fel cofnod newydd ar y blogiadur :(


Wel nac ydi siwr dduw, nid blogiad ydi o :rolio: . Pwy fyddai eisiau gweld rhestr 'favourites' pobl eraill? :winc: Er mae yn bosib, rhaid i ti e-bostio porthiant dy gyfrif deli.cio.us at Aran er mwyn iddo ei ychwanegu at y Blogiadur.

Be ti'n gallu wneud ydi creu rhwydwaith er mwyn gweld dolenni del.icio.us pobl eraill, fel dwi'n wneud yma: http://del.icio.us/network/rhyswynne

Galli di hefyd danysgrifio at borthiant (feed) tag pennodol fel Cymraeg. Neu gallwn criw ohonom gytuno i ddefnyddio 'tag' arbennig fel bla.s.us e.e. - tebyg i beth mae rhai Basgwyr yn wneud

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 2:01 pm
gan eusebio
Diolch Rhys, fe ymchwiliaf. Gyda llaw, 'dwi wedi gadael sawl neges ar dy flog yn ddiweddar ond nid oes yr un wedi ymddangos - dwn i ddim pam ... :(

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 2:08 pm
gan Rhys
Pa un rwan, dwi'n cadw sawl un?
Mae pobl eraill wedi bod yn gadael rhai ar 'Gwenu dan Fysiau' a 'Smiling under Buses' yn ddiweddar.

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 2:12 pm
gan eusebio
Ar GdF ... ond y broblem yw bod Blogger am ryw reswm yn cofio fi a fy nghyfrinair o'r hen Blogger ond 'dwi rwan wedi dyrchafu o'r fersiwn beta :(

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 2:50 pm
gan Rhys
Gwirion di Blogger. Fues i'n methu postio at flogiau Beta am ychydig (dwi heb uwchraddio), ond heb gael trafferth yn ddiweddar.

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 2:29 pm
gan Chris
Yr wyf yn hwyr gyda hyn, ond rhois fy sylw (yn addas) <a href="http://chriscopecymraeg.blogspot.com/" target="new">ar fy mlog</a>.

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 2:56 pm
gan huwwaters
Dwi'n trio atgyfodi'r holl sîn.

Y broblem yw, dwi'n meddwl wnaeth pobl cychwyn blogiau, dim ond er mwyn cael un - dim bod nhw efo rwbeth i'w ddeud.