Postiwyd: Iau 11 Ion 2007 3:43 pm
Dw i'n meddwl bod pethau'n tawelu achos bo'r novelty wedi mynd i lot o bobl (ychydig fel Maes E, efallai, sy wedi tawelu'n uffernol dros y flwyddyn ddiwethaf?). Y peth ydi, roedd a mae nifer o flogiau Cymraeg yn cylchdroi o amgylch aelodau Maes E, a fel bo'r Maes yn tawelu efallai bo hwynt hefyd.
Roedd 'na ffrwydrad cyntaf o flogiau, gyda tri chwarter o'r rheiny'n dod i ben ymhen chwe mis, a fe fu un arall hefyd, ond prin y parhaodd hwnnw, chwaith.
Neu efallai bod blogiau Cymraeg wedi jyst mynd yn boring? Wn i ddim - ydi'r safon wedi gostwng fel bo llai o bobl efo diddordeb?
Wn i ddim a oes rhywun arall yn sylweddoli ond mae'r nifer o ymwelwyr blogiau i'w gweld yn tawelu. Ond efallai na dim ond oherwydd bo 'Dolig wedi bod ydi hynna a'n bod ni'n ffysian am ddim byd. Yr unig bobl sy'n ymwelad a'n un i dyddiau hyn ydi pobl sy'n teipio 'gibbon' mewn i Google Images!