Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 5:08 pm
gan tafod_bach
bydd blog newydd wythnosol Eglwys Sant Teilo, Sain Ffagan yn fyw ac i'w ddarganfod ar wefan bbc cymru'r byd rywbryd wythnos nesa.

Delwedd

fel hyn! ond mewn geiriau! wpî!

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 5:13 pm
gan Rhys
tafod_bach a ddywedodd:bydd blog newydd wythnosol Eglwys Sant Teilo, Sain Ffagan yn fyw ac i'w ddarganfod ar wefan bbc cymru'r byd rywbryd wythnos nesa.


Eglwys yn blogio! Be nesa?

Mae'n edrych yn adeilad gwych o'r llun, dwi'n edrych ymalen i ymweld.

PostioPostiwyd: Maw 28 Awst 2007 6:13 pm
gan Kez
Fe ofynnwyd y cwestiwn gan Rhodri nol yn mis Ionawr a oedden ni'n gweld marwolaeth blogio yn y Gymraeg. Wrth edrych ar y rhestr o'r blogio a fu ar y 'blogiadur' yn ein hiaith ni, fe wedwn inna ei fod e ar i fyny, ac hyn er gwaetha pethau fel 'facebook' ac yn y blaen.

Cwestiwn arall yw faint o bobl sy'n eu darllen nhw. Rwyf inna'n lwcus i gael mwy na phump o bobl ar fy mlog i ac mae fy mam yn un o'r rhain. Efalle 'mod i'n ysgrifennu llwyth o gachu ond bid a fo am hynny. Dyma'r rhestr iti o'r blogio a gas ei wneud ers 2003 ac fe welid di gynnydd bron pob mis ers mis Ionor 2007

Archifau
Awst 2007 (234)
Gorffennaf 2007 (445)
Mehefin 2007 (644)
Mai 2007 (392)
Ebrill 2007 (111)
Mawrth 2007 (108)
Chwefror 2007 (64)
Ionawr 2007 (51)
Rhagfyr 2006 (36)
Tachwedd 2006 (54)
Hydref 2006 (62)
Medi 2006 (51)
Awst 2006 (47)
Gorffennaf 2006 (52)
Mehefin 2006 (58)
Mai 2006 (51)
Ebrill 2006 (68)
Mawrth 2006 (37)
Chwefror 2006 (35)
Ionawr 2006 (48)
Rhagfyr 2005 (27)
Tachwedd 2005 (40)
Hydref 2005 (25)
Medi 2005 (44)
Awst 2005 (11)
Gorffennaf 2005 (11)
Mehefin 2005 (6)
Mai 2005 (5)
Ebrill 2005 (2)
Mawrth 2005 (5)
Chwefror 2005 (3)
Ionawr 2005 (7)
Hydref 2004 (3)
Medi 2004 (1)
Tachwedd 2003 (1)

PostioPostiwyd: Maw 28 Awst 2007 9:45 pm
gan Hogyn o Rachub
Ti'n anghofio, fodd bynnag, nifer y blogwyr sy'n parhau i flogio, neu sy'n ei wneud ag unrhyw gysondeb - maen nhw'n brin iawn. Ffawd y rhan fwyaf o flogiau Cymraeg, hyd y gwelaf i, yw rhyw fflam o flogio am ddeufis neu rhywbeth cyn marw'n gyfangwbl.

Wn i ddim am y niferoedd sy'n darllen - dw i'n siwr bod hyd yn oed y blogiau mwyaf poblogaidd yn Gymraeg yn denu nifer isel o ymwelwyr cyson (h.y. pobl sydd yn chwilio am y blog yn bwrpasol, ddim jyst yn dod ar ei draws).

Ond Duw, dydi blogs ddim yn bwysig nadyn? Mewn diiiifri.

PostioPostiwyd: Maw 28 Awst 2007 10:52 pm
gan Kez
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Ond Duw, dydi blogs ddim yn bwysig nadyn? Mewn diiiifri.


Deunydd darllen yn y Gymraeg gan bobl gyffredin ydyn nhw na chelet ti mo'r cyfle i ddarllen fel arall, ots pwy mor ddiddorol, gwych, diflas neu sych y bon nhw.

Yr unig werth iddyn nhw yw bod dyn yn cael gweid be mae fe'n moyn heb athro, beirniad neu olygydd wrth ei ysgwydd. Peth digon prin yn y Gymraeg.

Os taw dim ond am y rheswm hwnnw wi'n cretu eu bod nhw'n eitha pwysig, o leiaf yn y Gymru sydd ohoni.

PostioPostiwyd: Mer 29 Awst 2007 9:14 am
gan garynysmon
Mae ffigyriau gwylio fy mlog i yn ddigon iach, llawer o'r ymwelwyr yn dod o dermau a deipwyd mewn i Gwgl, felly o bosib mae'r cyfrwng dal yn fyw.

PostioPostiwyd: Mer 29 Awst 2007 10:06 am
gan Rhys
Mae yna newid yn sicr wedi bod, gyda llawer o'r 'ton gyntaf' wedi rhoi'r gorau am amryw o resymau (colli diddordeb, pwysau gwaith/teulu etc), ond mae rhai newydd yn dal i ddod yn eu lle. Roeddwn i hefyd yn meddwl byddai Facebook yn achosi effaith negyddol, ond os rhywbeth mae'n denu pobl na fyddai byth yn meddwl am ddefnyddio gwefannau rhwybweithio cymdeithasol o'r blaen, ac efallai menw amser bydd rhai'n penderfynnu blogio (a blogio'n Gymraeg).

O ran ystadegau, mae sawl blogiwr Cymraeg yn defnyddio newsreaders i ddarllen blogiau ac wrth gwrs y blogiadur. Oni bai bod rhain yn clicio ar y blog wedyn, nid ydynt yn mynd i ddangos ar eich ystadegau.

Mae rhai'n diflasu efallai am nad oes neb yn gadael sylw ar eu blogiau, ond os ydych eisiau sylwadau ar eich blog chi, mae'n syniad i chi adael sylw ar flogiau pobl eraill.

PostioPostiwyd: Mer 29 Awst 2007 7:16 pm
gan sbwriel
Rhys a ddywedodd:Mae rhai'n diflasu efallai am nad oes neb yn gadael sylw ar eu blogiau, ond os ydych eisiau sylwadau ar eich blog chi, mae'n syniad i chi adael sylw ar flogiau pobl eraill.


Ac i ysgrifennu cofnodion sydd werth ysgrifennu sylw arno

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 8:56 am
gan Rhys
sbwriel a ddywedodd:Ac i ysgrifennu cofnodion sydd werth ysgrifennu sylw arno


O ia, o hynny hefyd, mae hynny'n bwysicach fyth.

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 6:08 pm
gan Kez
Mae rhai'n diflasu efallai am nad oes neb yn gadael sylw ar eu blogiau, ond os ydych eisiau sylwadau ar eich blog chi, mae'n syniad i chi adael sylw ar flogiau pobl eraill.


Mae'n dibynnu ar bwy deip o flog yr wyt ti'n ei ysgrifennu ontefe. Mae'r blogs gwleidyddol fel eu bod nhw'n erfyn am ymateb, ac mae'n siwr gen i os nad ydynt yn cael ymateb maen nhw'n pwdu.

Mae blogs eraill wedyn sydd ond yn siarad am fywyd a diddordebau y blogiwr a'r byd fel ag y mae ef/hi yn ei gweld hi. Neis cael pobl yn gwneud sylwad ond nid dyna 'raison d'etre' y blog i rai ohonyn nhw. Efallai taw dyna'r teip o flog fydd yn dala i fynd ar ddiwedd y dydd pan fo'r lleill wedi hen bwdu a chau pen y mwdwl.