Tudalen 6 o 6

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 6:56 pm
gan SbecsPeledrX
Pam bob tro dwi'n trio gadael sylw ar blog difyr (fel un gar ynys mon am Paul Parry) ydi'r tudalen cyfraniadau jest yn llwytho ac ail lwytho a ddim yn gadael i mi gyfrannu?

Unrhyw syniadau?

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 8:13 pm
gan sbwriel
ma lot o flogwyr yn dewis cymhedroli sylwadau am rhesymau megis arbed sbam, so falle bydd angen aros sbel i weld os fydd awdur y blog eisiau rhoi'r sylw yn fyw

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 8:44 pm
gan garynysmon
Dwi'm wedi'i gymredroli. Dwnim, oes rhaid fod yn aelod o blogspot i adael sylwad? Dwi'm yn siwr.

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 8:49 pm
gan Kez
Wi wastod yn cael problemau 'ta'r peth 'na sydd i fod i wneud yn siwr nag wt ti'n 'extraterrestre' a gofyn iti ail-ysgrifennu llythrennau fel xjyzop. Smo fi'n meddwl 'bo fi'n ddylessixcs ond pwy a wyr. Fe alla i fod wrthi am ddeng munud yn treial gadael neges, ac ifi wedi rhoi'r gora iddi cyn hyn.

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 8:57 pm
gan SbecsPeledrX
Na dim byd i neud efo cymedroli. Mae'r blwch sylwadau yn llwytho, neud swn clic - a dechrau llwytho eto. Dro ar ol tro. Diom yn gadael fi loggio mewn na gadael sylw.

Eniwe - fy sylw oedd fel ffan o gaerdydd dwi hefyd yn gweld y boi yn bihafio fatha prat. Ac onbi am rhoi linc i cyfweliad efo fo oedd ynd eud na, go iawn, wir dim byd i neud efo ffrae efo tosh - ac yn awgrymu mai ofn hedfan mae'r boi.

What a pillock.

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 10:14 pm
gan garynysmon
Sbecs, dwi newydd wneud test rwan drwy adael sylwad 'annonymous' a wnaeth o weithio'n iawn. O bosib mae problem efo dy borwr neu rwbath? dwnim.

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 10:27 pm
gan Hedd Gwynfor
Cytuno, Paul Parry yn dwat! :?