Tudalen 1 o 2

Help @ blogspot newydd

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 10:53 pm
gan Wierdo
Dwnim os di hwn yn haeddu pwnc newydd ond onin meddwl sa hin well.

Dwi di cal fy newid i be oedd gynt yn blogger beta. Mana betha da a petha drwg.

Dwin hoffi'r syniad o labeli, a main haws ychwanegu petha at yr sidebar a phopeth.

Ond ma newid yr html yn wirion. Dwim yn gallu gweld dim byd sydd yn edrych yn debyg i be oedd yno o'r blaen. Y prif beth dwisho newid ydi cal llun ar y top fel sgin i ar hyn o bryd...oes rhywun yn gallu fy helpu?

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 1:11 pm
gan Griff-Waunfach
Dyna beth dwi ishe gwneud hefyd!

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 4:03 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi yn y broses o ail-wampio fy un i yn defnyddio'r sustem newydd rwan. Mae o allan o beta rwan ac felly yn gweithio'n llawn... i fod.

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 4:33 pm
gan Rhys Llwyd
Wedi llwyddo dwi'n meddwl i neud popeth oni bai am roi llun fel banner ar hyd y top ac ychwanegu ffys i lawr y bar - ond dwi eitha leicio fo'n blaen am rwan. Roedd cyfieithu yr un yma tipyn haws oherwydd y teclyn WYSIWIG doedd dim rhaid i chi fynd mewn i'r cod o gwbl.

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 4:37 pm
gan Griff-Waunfach
sut wyt ti'n cyfieithu ar yr un newydd?

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 5:39 pm
gan nicdafis
Rho glec ar "Template", wedyn ar "Edit" yn yr adran Page Elements. Cei di newid y labeli i gyd: "Posted by", "comments" ac yn y blaen, neu guddio'r rhai ti ddim moyn.

Ddim yn siwr am yr adran "About me" (sdim blog Blogger gyda fi) ond beth fyddwn i'n neud yw tynnu'r holl beth mas, ac wedyn ychwanegu rhywbeth o'r newydd gyda'r "Add Page Element".

PostioPostiwyd: Llun 15 Ion 2007 10:07 am
gan Rhys Llwyd
nicdafis a ddywedodd:Ddim yn siwr am yr adran "About me" (sdim blog Blogger gyda fi) ond beth fyddwn i'n neud yw tynnu'r holl beth mas, ac wedyn ychwanegu rhywbeth o'r newydd gyda'r "Add Page Element".


Dyna gwnes i - gyda'r add picture element chi'n gallu rhoi caption a rhos i y blurb amdana i fan yna. Ewch i'r blog i weld be dwi'n meddwl.

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 10:35 pm
gan Annie Rhiannon
Dwi di newid i'r blogger newydd on dydwi byth eisio defnyddio un o'r templates newydd. Mae cod fi'n mor complicated ond dwi'n gwybod be dwi'n wneud hefo fo. Does na ddim digon o control yn y blogger newydd.

PostioPostiwyd: Maw 20 Chw 2007 9:28 am
gan Ray Diota
Annie Rhiannon a ddywedodd:Dwi di newid i'r blogger newydd on dydwi byth eisio defnyddio un o'r templates newydd. Mae cod fi'n mor complicated ond dwi'n gwybod be dwi'n wneud hefo fo. Does na ddim digon o control yn y blogger newydd.


un dydd fyddai'n deall am be chi'n son... falle :? :(

PostioPostiwyd: Maw 20 Chw 2007 12:29 pm
gan Rhys
Annie Rhiannon a ddywedodd:Dwi di newid i'r blogger newydd on dydwi byth eisio defnyddio un o'r templates newydd. Mae cod fi'n mor complicated ond dwi'n gwybod be dwi'n wneud hefo fo. Does na ddim digon o control yn y blogger newydd.


Dwi'n defnyddio patrymlun (template) gwahanol i be mae Blogger yn gynnig (wedi ei gymeryd o wefan arall, nid fi sydd di'w greu). Dwi newydd newid i Blogger newydd, a does dim rhaid neiwd y patrymlun, jyst chi'n methu defnyddio'r labels, a'r RSS feed o wefannau eraill heb newid patrymlun. |Er mae'n siwr gwnaiff rhywn ffeindio ffordd o gwmaps hyn.

Dwi'n licio'r ffordd ti'n defnyddio lluniau ar gyfer dy blogroll.