Llun 23 Ebrill - Fforwm dotCYM / IWA
Ar ddydd Llun 23 Ebrill cynhelir fforwm dotCYM wedi ei drefnu a’i noddi gan dotCYM a Sefydliad Materion Cymreig (IWA). Cynhelir y digwyddiad dros ginio yng nghanolfan newydd BT yn Tŷ Cynnal, Watkiss Way, Caerdydd. Noddir y lleoliad a'r cinio bwffe gan BT.
Bydd y fforwm yn gyfle i wybod mwy am gais dotCYM ac i glywed Amadeu Abril i Abril, sylfaenydd cais llwyddiannus puntCAT ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol y Catalaniaid yn esbonio llwyddiant eu cais hwy.
12.00 Cofrestru a chinio bys a bawd
12.30 Croeso
12.35 Cyflwyniadau am gais dotCYM gan:
(i) dotCYM – Cymru Heb Ffiniau
Beth yw dotCYM, beth yw’r manteision a sut caiff ei weinyddu?
Siôn Jobbins, Cadeirydd cais dotCYM
(ii) puntCAT
Llwyddiant y Catalaniaid a’i gwersi i Gymru’r ganrif newydd
Amadeu Abril i Abril, o gofnodwyr parth CORE a sylfaenydd puntCAT
13.15 Trafodaeth ar Strategaeth a Chyflwyniad cias dotCYM
1400 Diwedd
Os hoffech fynychu'r fforwm neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â dotcym@dotcym.org . Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.
dotCYM: http://www.dotcym.org