Tudalen 1 o 1

Lleoleiddio NireBlog.com i'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 06 Ebr 2007 6:57 am
gan Rhys
Awydd sustem blogio yn Cymraeg? Mae 45% o gyfieithiad Cymraeg o NireBlog.com wedi ei wneud yn barod. Gallwch helpu ei orffen yma.

Mae nhw hefyd yn chwilio am gyfieithwyr i fersiynnau Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban (a sawl iaith arall) hefyd os wyddoch am rhywun fyddai â diddordeb.

PostioPostiwyd: Maw 01 Mai 2007 12:07 pm
gan Jac Glan-y-gors
Mae'n edrych yn wych - yn gweithio ar flog yn defnyddio nireblog ar hyn o bryd. Oes fforwm cefnogi? pethau bach fel methu cael to bach i weithio, oes modd gwneud cyfraniad yn gludiog ayb.

Diolch i bwy bynnaf gyfieithodd hwn - hawdd iawn i sefydlu, hyblyg, cyflym, gwych!

PostioPostiwyd: Maw 05 Meh 2007 11:05 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae'r system yma yn wych, ac yn llawer gwell na Blogger neu sustemau tebyg i siaradwyr Cymraeg.

A oes ffordd hawdd o symud gwybodaeth blog sydd ar dyweder Blogger draw at flog newydd ar http://nireblog.com/cy ? Efallai byddai'n syniad da i'r llu o flogiau Cymraeg symud draw at NireBlog er mwyn cefnogi sustemau sy'n cynnig rhyngwyneb Cymraeg, neu sydd yn eich galluogi i gyfieithu y rhyngwyneb i'r Gymraeg?

Dwi am ddechre blog nawr 8) :?

PostioPostiwyd: Mer 06 Meh 2007 2:54 am
gan Mali
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
A oes ffordd hawdd o symud gwybodaeth blog sydd ar dyweder Blogger draw at flog newydd ar http://nireblog.com/cy ? Efallai byddai'n syniad da i'r llu o flogiau Cymraeg symud draw at NireBlog er mwyn cefnogi sustemau sy'n cynnig rhyngwyneb Cymraeg, neu sydd yn eich galluogi i gyfieithu y rhyngwyneb i'r Gymraeg?:?


Mi fuaswn i'n ystyried symud, cyn belled fod yn broses yn weddol hawdd de!

PostioPostiwyd: Mer 06 Meh 2007 9:42 am
gan Rhys
Mae'n reit hawdd, ac mae cyfarwyddiadau manwl ar Nireblog. Dwi heb drosglwyddo fy mhrif blog eto, ond fel arbrawf, trosglwyddais y blog yma ar Blogger at y blog yma ar Nireblog.

Os chi ddim yn hoffi'r canlyniad, chi'n dal yn gallu dal ymlaen gyda'r blog gwreiddiol ar Blogger.

PostioPostiwyd: Mer 06 Meh 2007 11:26 am
gan Hedd Gwynfor
Rhys a ddywedodd:Os chi ddim yn hoffi'r canlyniad, chi'n dal yn gallu dal ymlaen gyda'r blog gwreiddiol ar Blogger.


Ac os chi'n hoffi be chi'n gweld, mae'n siwr y gellid cadw'r hen flog sydd ar blogger, dileu y cynnwys, a rhoi 1 dolen ymlaen at y blog newydd i wneud yn siwr fod pawb yn gwybod ble i fynd :D

PostioPostiwyd: Llun 11 Meh 2007 6:34 pm
gan Jac Glan-y-gors
Yn anffodus mae safle delweddau rhywiol siapaneaidd wedi dechrau defnyddio nireblog Cymraeg a chymryd y tagiau i gyd! Hawliwch nhw yn ol - dechreuwch flogio gyda nireblog cymraeg!

PostioPostiwyd: Maw 12 Meh 2007 11:14 am
gan Rhys
Wedi cysylltu â Nireblog ac wedi cynnig fy hyn fel cymedrolwr i'r fersiwn Cymraeg os yn bosib/angenrheidiol.

PostioPostiwyd: Maw 12 Meh 2007 12:01 pm
gan Rhys
Y sothach wedi mynd

PostioPostiwyd: Mer 13 Meh 2007 11:21 pm
gan Jac Glan-y-gors
Rhys a ddywedodd:Wedi cysylltu â Nireblog ac wedi cynnig fy hyn fel cymedrolwr i'r fersiwn Cymraeg os yn bosib/angenrheidiol.

Diolch Rhys . :D