Mae na erthygl difyr ar flog Michael Guest sy'n cymharu maint a thwf cofnodion Wicipedia yn yr Aeleg, yr Wyddeleg a'r Gymraeg. Mae rhagor o sylwadau yn nhestun y lluniau fflicr yma ac yma.
Sa'n ddifyr cael Llydaweg ar y graff hefyd, gan eu bod nhw'n bell ar y blaen gyda dros 13,000 cofnod! 8,407 sydd yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Pam y gwahaniaeth mawr?