Blog-gwrdd (a Wicipedia-gwrdd) Eisteddfod 2007?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blog-gwrdd (a Wicipedia-gwrdd) Eisteddfod 2007?

Postiogan Rhys » Mer 16 Mai 2007 4:00 pm

Efallai fod o'n swnio'n gynnar i feddwl am y peth, ond mae Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg (a fu digon caredig i gynnal un 2006) wrthi'n gwneud eu trefniadau nhw ar gyfer yr Eisteddfod.

1. Yn anffodus, ni fydd CMC yn gallu cael stondin mor fawr a thro diwethaf, mae'n debyg mai un uned sengl fydd gyda nhw. Felly bydd dim lle i gynnal blog-gwrdd yno.

2. Gan nad oedd sicrwydd ar y pryd (wel does dal dim) y bydd gan CMC stondin o gwbwl, mae'r Gymdeithas wedi cael slot ym Mhabell y Cymdeithasau ar ddiwedd p'nawn Mawrth ble bydd rhywun (wel fi mwy na thebyg), yn siarad am feddalwedd a gwefannau Cymraeg. Mae CMC yn gofyn os hoffwn flog-gwrdd ddigwydd syth wedyn ym Mhabell y Cymdeithasau.

Beth yw barn pobl?
-Ydych chi eisiau blog-gwrdd o gwbwl?
-Fydd digon o bobl yno dydd Mawrth?
-Fyddai'n well gyda chi drefnu rhywbeth diwedd yr wythnos (Gwener/Sadwrn) yn rhywle arall
-Dwi am fod yno dydd Mawrth beth bynnag, felly gallwn drefnu rhywbeth ar ddau ddiwrnod, er hoffwn i flogwr Cymraeg neu ddau fod yno dydd Mawrth os yn bosib.
-Syniad arall - beth am Wicipedia-gwrdd?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 17 Mai 2007 10:33 am

Dwi'n gem, er nad ydwi'n flogiwr mawr nac yn wicipediwr mwyach (barodd hynny w'snos neu ddwy :rolio: ). Ella byddai'n rhoi hwb i mi ddal arni! ;)

Mae'n debyg y byddai yno trwy gydol yr wythnos, felly does dim ots gen i pryd. Ac mae arna i beint i Nic.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron