Efallai fod o'n swnio'n gynnar i feddwl am y peth, ond mae Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg (a fu digon caredig i gynnal un 2006) wrthi'n gwneud eu trefniadau nhw ar gyfer yr Eisteddfod.
1. Yn anffodus, ni fydd CMC yn gallu cael stondin mor fawr a thro diwethaf, mae'n debyg mai un uned sengl fydd gyda nhw. Felly bydd dim lle i gynnal blog-gwrdd yno.
2. Gan nad oedd sicrwydd ar y pryd (wel does dal dim) y bydd gan CMC stondin o gwbwl, mae'r Gymdeithas wedi cael slot ym Mhabell y Cymdeithasau ar ddiwedd p'nawn Mawrth ble bydd rhywun (wel fi mwy na thebyg), yn siarad am feddalwedd a gwefannau Cymraeg. Mae CMC yn gofyn os hoffwn flog-gwrdd ddigwydd syth wedyn ym Mhabell y Cymdeithasau.
Beth yw barn pobl?
-Ydych chi eisiau blog-gwrdd o gwbwl?
-Fydd digon o bobl yno dydd Mawrth?
-Fyddai'n well gyda chi drefnu rhywbeth diwedd yr wythnos (Gwener/Sadwrn) yn rhywle arall
-Dwi am fod yno dydd Mawrth beth bynnag, felly gallwn drefnu rhywbeth ar ddau ddiwrnod, er hoffwn i flogwr Cymraeg neu ddau fod yno dydd Mawrth os yn bosib.
-Syniad arall - beth am Wicipedia-gwrdd?