19 Gorffennaf - dotCYM yn y Gogledd

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

19 Gorffennaf - dotCYM yn y Gogledd

Postiogan Sion Jobbins » Llun 16 Gor 2007 11:23 am

dotGOG – 19 Gorffennaf

Bydd cyflwyniad ar dotCYM mewn cyfarfod ym Mangor nos Iau 19 Gorffennaf. Trefnir y cyfarfod gan ITWales ac fe’i cynhelir yn y Technium Cast ym Mharc Menai, Bangor. Yn ymuno â dotCYM bydd Dewi Bryn Jones o Gymdeithas Meddalwedd Cymraeg – un o gefnogwyr selocaf dotCYM. Mae croeso i unrhyw un fynychu’r cyfarfod. Mae’n cychwyn am 5.30pm am 6.00pm a bydd wedi gorffen erbyn 8.00pm a bydd lluniaeth ysgafn. Cysylltwch â Judith Pyke am ragor o wybodaeth neu i fachu lle: http://www.itwales.com/997596.htm neu ebostiwch i gadw lle: judith@informatics.bangor.ac.uk

Dolen:
ITWales: http://www.itwales.com
dotCYM: http://www.dotcym.org
CMC: http://www.meddal.org.uk
Cymraeg yw Iaith y Ddinas
Sion Jobbins
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 3:36 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan DewiBJones » Llun 16 Gor 2007 12:55 pm

Liciwn i son bod aelodau eraill o CMC yr un mor selog ac yn cyfrannu'n hael at costau'r bwyd, y lleoliad a'r cyfieithu ar y pryd.

Diolch i ReadSpeaker, Draig Technologies, Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr a Meddal.com.
Rhithffurf defnyddiwr
DewiBJones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Iau 22 Awst 2002 4:03 pm
Lleoliad: Pwllheli


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai