Tudalen 1 o 2

Lle Aeth Pawb

PostioPostiwyd: Sul 12 Awst 2007 4:23 pm
gan Mali
Dim byd i'w wneud a distawrwydd y maes yma dros yr wythnos diwethaf :winc: , ond safle newydd i osod 'hen' luniau , a chwilio am 'hen' gyfeillion.
http://test.lleaethpawb.com/index.php?lang=c

PostioPostiwyd: Sul 12 Awst 2007 6:33 pm
gan huwwaters
Ddim i'w weld wedi gorffen cyfieithu popeth. Testun Saesneg yn troi fyny ar yr adran Gymraeg.

Be bynnag, "Ble aeth pawb?" dyle fo fod. Ma "Lle aeth pawb?" yn anghywir.

PostioPostiwyd: Sul 12 Awst 2007 8:04 pm
gan Kez
huwwaters a ddywedodd:Ddim i'w weld wedi gorffen cyfieithu popeth. Testun Saesneg yn troi fyny ar yr adran Gymraeg.

Be bynnag, "Ble aeth pawb?" dyle fo fod. Ma "Lle aeth pawb?" yn anghywir.

Ble'r aeth pawb sy'n gywir yn yr iaith lenyddol ac ar lafar a dweud y gwir. Mae'r ddau arall a thinc tafodieithol iddyn nhw er nad yw hwnna i weid 'bod nhw'n anghywir. Mae'n dibynnu ar bwy gywair ti'n moyn.

PostioPostiwyd: Sul 12 Awst 2007 8:41 pm
gan huwwaters
Kez a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Ddim i'w weld wedi gorffen cyfieithu popeth. Testun Saesneg yn troi fyny ar yr adran Gymraeg.

Be bynnag, "Ble aeth pawb?" dyle fo fod. Ma "Lle aeth pawb?" yn anghywir.

Ble'r aeth pawb sy'n gywir yn yr iaith lenyddol ac ar lafar a dweud y gwir. Mae'r ddau arall a thinc tafodieithol iddyn nhw er nad yw hwnna i weid 'bod nhw'n anghywir. Mae'n dibynnu ar bwy gywair ti'n moyn.

Heb droi hyn fewn i ddadl ieithyddol, onid yw 'lle' yn osodiaid; ond gan ei fod yn diweddu gyda gofynnod, yna mae amlwg eu bod yn golygu 'ble'.

PostioPostiwyd: Sul 12 Awst 2007 10:18 pm
gan Kez
huwwaters a ddywedodd:

Simo fi'n siwr be' ti'n treial ei weid fan hyn 'achan. Wrth gwrs bod 'lle' yn golygu 'ble' yn y defnydd ohoni uchod, ac yn llawer iawn mwy cyffredin na gweid 'ble' mewn llawer o ardaloedd - yn enwedig yn y de. Darllena be wedes i cyn neidio i mewn a rhyw sylw nad oes a wnelo fe ddim byd a'r hyn a wedes i. Wi ddim isha troi hyn i fewn i ddadl ieithyddol chwaith ond ti ddechreuodd e!! :)

PostioPostiwyd: Llun 13 Awst 2007 10:32 am
gan Rhys
Dallt be ti'n ddeud am y teitl Huw. Syniad y wefan yn un reit da, er efallai gan ei fod yn cymeryd cymaint o elfennau Facebook, gallai efallai fod wedi ychwnaegu rhai elfennau mwy perthnasol i Gymru neu'r Gymru Cymraeg fel clwb CFFI, Aelwyd, Côr, Clwb Rygbi/Pêl-droed ayyb.

Cefais fy siomi ar ôl llwytho manylion fy holl ysgolion nad oedd modd clicio arnynt wedyn (a la Facebook) a gweld pwy arall aeth i'r un ysgol/coleg + yr un peth gyda 'lleoliad'. Hefyd oes modd chwilota'r allweddeiriau ('tagiau'?) mae pobl yn gosod ar eu proffeil sgwn i?

PostioPostiwyd: Llun 13 Awst 2007 12:31 pm
gan ceredigcaredig
huwwaters a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Ddim i'w weld wedi gorffen cyfieithu popeth. Testun Saesneg yn troi fyny ar yr adran Gymraeg.

Be bynnag, "Ble aeth pawb?" dyle fo fod. Ma "Lle aeth pawb?" yn anghywir.

Ble'r aeth pawb sy'n gywir yn yr iaith lenyddol ac ar lafar a dweud y gwir. Mae'r ddau arall a thinc tafodieithol iddyn nhw er nad yw hwnna i weid 'bod nhw'n anghywir. Mae'n dibynnu ar bwy gywair ti'n moyn.

Heb droi hyn fewn i ddadl ieithyddol, onid yw 'lle' yn osodiaid; ond gan ei fod yn diweddu gyda gofynnod, yna mae amlwg eu bod yn golygu 'ble'.

Ac os i ni am fod yn pici fydden i'n gweud bod rhoi LAP fel talfyriad o Lle Aeth Pawb yn waeth na'r uchod i gyd!

<title>LAP - Lle Aeth Pawb</title>

PostioPostiwyd: Mer 19 Rhag 2007 12:09 pm
gan Rhys
Mae'n edrych fel bod y wefan yma'n fyw 'go iawn' rwan.
http://www.lleaethpawb.com

PostioPostiwyd: Mer 19 Rhag 2007 12:41 pm
gan Rhodri Nwdls
Y llun yma ar y wefan yn wych:

Delwedd

PostioPostiwyd: Mer 19 Rhag 2007 1:09 pm
gan Rhys
Welais i hwnna hefyd, a gan yr un person, llun o'r band Glam Rock Ceffyl Pren allan am bryd o fwyd gyda eu groupies yn yr 80'au.

Ambell i 'glasur' arall hefyd - Miss Royal Welsh 1897

:ofn: