Mae yna gwestiwn amgenach na nifer o "hits" mae'r Flin yn cael pob dydd.
Mae nifer o sylwebyddion yn honni bydd y we yn chware rhan bwysicach ym mhob etholiad o hyn ymlaen. Mae rhai yn credu bod y we eisoes wedi effeithio ar bwy fydd prif ddetholion Arlywyddiaeth yr UDA.
Os mae fi a Vaughan ydy’r unig rai sydd yn blogio yn weddol reolaidd am wleidyddiaeth yn y Gymraeg, ac mae ugain darllenydd yn unig sydd yn darllen fy nghyfraniadau, pa obaith sydd i wleidyddiaeth yn y Gymraeg a gwleidyddiaeth yr Iaith?
Os ydy'r blogospffer am chware rhan cynyddol yn y broses wleidyddol, bydd sicrhau blogosffer gwleidyddol Cymraeg llewyrchus yn holl bwysig.
Hyd y gwelaf blog yr Hen Rech Flin yw'r unig blog gwirfoddol sydd yn ymdrin â gwleidyddiaeth Cymreig trwy gyfrwng y Gymraeg yn rheolaidd. Blog gwael gan dwpsyn di glem ydyw. Os ydy blogiau am greu gwleidyddiaeth y dyfodol mae angen llawer mwy o flogiau gwleidyddol Cymraeg ac ambell un llawer gwell nag ymgais yr Hen Rech Flin.!