Be di gwerth blogio yn y Gymraeg?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 07 Medi 2007 4:21 am

Mae yna gwestiwn amgenach na nifer o "hits" mae'r Flin yn cael pob dydd.

Mae nifer o sylwebyddion yn honni bydd y we yn chware rhan bwysicach ym mhob etholiad o hyn ymlaen. Mae rhai yn credu bod y we eisoes wedi effeithio ar bwy fydd prif ddetholion Arlywyddiaeth yr UDA.

Os mae fi a Vaughan ydy’r unig rai sydd yn blogio yn weddol reolaidd am wleidyddiaeth yn y Gymraeg, ac mae ugain darllenydd yn unig sydd yn darllen fy nghyfraniadau, pa obaith sydd i wleidyddiaeth yn y Gymraeg a gwleidyddiaeth yr Iaith?

Os ydy'r blogospffer am chware rhan cynyddol yn y broses wleidyddol, bydd sicrhau blogosffer gwleidyddol Cymraeg llewyrchus yn holl bwysig.

Hyd y gwelaf blog yr Hen Rech Flin yw'r unig blog gwirfoddol sydd yn ymdrin â gwleidyddiaeth Cymreig trwy gyfrwng y Gymraeg yn rheolaidd. Blog gwael gan dwpsyn di glem ydyw. Os ydy blogiau am greu gwleidyddiaeth y dyfodol mae angen llawer mwy o flogiau gwleidyddol Cymraeg ac ambell un llawer gwell nag ymgais yr Hen Rech Flin.!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Be di gwerth blogio yn y Gymraeg?

Postiogan sanddef » Sad 08 Medi 2007 11:22 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae blog Saesneg <a href="http://this-is-sparta.blogspot.com/">Sanddef</a> yn aelod o gymdeithas blogio o'r enw <a href="http://defendingtheblog.blogspot.com/">Blogpower</a>, lle mae blogwyr gwleidyddol Prydeinllyd yn cefnogi cyd aelodau o'u grŵp


Nid yw Blogpower yn gyfyngedig i flogiau gwleidyddol na flogiau o Brydain chwaith.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nôl

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron