Wrth imi roi cychwyn ar flogio, tua mis Ebrill, fy mwriad oedd cynnal blog dwyieithog. Cefais fy mherswadio mae dau flog cyfochrog y naill yn y Gymraeg a'r llall yn y Saesneg oedd y trywydd callaf i'w dilyn. Felly mae gennyf dau flog cyfochrog Hen Rech Flin a Miserable Old Fart.
Rhaid cyfaddef bod mwy o byst Saesneg na rhai Cymraeg gennyf am amryfal resymau.
Dyma un ohonynt:
O ddanfon neges i MOF, bydd tua dau gant yn ei ddarllen. O ddanfon neges debyg i HRF bydd tua ugain yn ei ddarllen. Ar ddyddiau di neges bydd hyd at gant yn darllen MOF, ar ddyddiau di neges bydd tua neb yn darllen HRF.
Mae blog Saesneg Sanddef yn aelod o gymdeithas blogio o'r enw Blogpower, lle mae blogwyr gwleidyddol Prydeinllyd yn cefnogi cyd aelodau o'u grŵp trwy addo gwneud pethau megis:
* Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd
* Postio sylw er cynnal trafodaeth
*Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.
*Traws ymateb mewn pyst
Rwy'n blogio yn y Saesneg er mwyn cael dweud fy nweud, rwy'n blogio yn y Gymraeg er mwyn bod yn wleidyddol cywir fy nghefnogaeth i'r iaith!
A oes modd cynnal cymdeithas debyg i Blogpower i'r sawl sy'n blogio yn y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod ein perlau yn cael eu darllen gan gyd flogwyr, o leiaf, os nad gan neb arall?