Tudalen 1 o 2

Be di gwerth blogio yn y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 1:33 am
gan Hen Rech Flin
Wrth imi roi cychwyn ar flogio, tua mis Ebrill, fy mwriad oedd cynnal blog dwyieithog. Cefais fy mherswadio mae dau flog cyfochrog y naill yn y Gymraeg a'r llall yn y Saesneg oedd y trywydd callaf i'w dilyn. Felly mae gennyf dau flog cyfochrog Hen Rech Flin a Miserable Old Fart.

Rhaid cyfaddef bod mwy o byst Saesneg na rhai Cymraeg gennyf am amryfal resymau.

Dyma un ohonynt:

O ddanfon neges i MOF, bydd tua dau gant yn ei ddarllen. O ddanfon neges debyg i HRF bydd tua ugain yn ei ddarllen. Ar ddyddiau di neges bydd hyd at gant yn darllen MOF, ar ddyddiau di neges bydd tua neb yn darllen HRF.

Mae blog Saesneg Sanddef yn aelod o gymdeithas blogio o'r enw Blogpower, lle mae blogwyr gwleidyddol Prydeinllyd yn cefnogi cyd aelodau o'u grŵp trwy addo gwneud pethau megis:

* Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd

* Postio sylw er cynnal trafodaeth

*Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.

*Traws ymateb mewn pyst

Rwy'n blogio yn y Saesneg er mwyn cael dweud fy nweud, rwy'n blogio yn y Gymraeg er mwyn bod yn wleidyddol cywir fy nghefnogaeth i'r iaith!

A oes modd cynnal cymdeithas debyg i Blogpower i'r sawl sy'n blogio yn y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod ein perlau yn cael eu darllen gan gyd flogwyr, o leiaf, os nad gan neb arall?

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 8:43 am
gan garynysmon
Mi fyswn i'n dweud fod y Blogiadur yn gwneud job ddigon del ohoni'n barod. Dyna 'marn i beth bynnag, ond dwi licio'r syniad o adael mwy o sylwadau u gynnal dadl.

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 8:57 am
gan Hogyn o Rachub
Dw i o'r farn nad oes fawr o bwynt i flogio beth bynnag, ond dw i'n gwneud dim ond er y mwynhad dw i'n ei chael ohoni (er, blog bersonol dw i'n ei chadw, felly dyna'r pwynt, ond wrth mynegi barn mi allaf ddeall ei bod efallai yn ddigalon os bo rhywun yn gwneud hynny a'r niferoedd sy'n darllen yn isel)

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 3:51 pm
gan Mali
Dipyn o wahaniaeth yn y ffigyrau yna HRF ! Fel yr hogyn o Rachub , blog personol dwi'n gadw hefyd , ond mae'n braf gweld fod 'na rai yn gadael sylw. Dwi'n meddwl fod y Blogiadur yn gwneud ei waith ar gyfer y rhai sydd yn blogio beth bynnag ,ond ddim yn rhy siwr am y rhai sydd ddim yn blogio o gwbwl .
Efallai mai dyma'r gynulleidfa y dylem drio eu denu ?
:syniad:

Re: Be di gwerth blogio yn y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 7:38 pm
gan Kez

O ddanfon neges i MOF, bydd tua dau gant yn ei ddarllen. O ddanfon neges debyg i HRF bydd tua ugain yn ei ddarllen. Ar ddyddiau di neges bydd hyd at gant yn darllen MOF, ar ddyddiau di neges bydd tua neb yn darllen HRF.

Siaradwyr Saesneg yn y byd = 1.8 biliwn
Siaradwyr Cymraeg yn y byd = 500 mil

Byswn inna'n poeni mwy am nifer dy ddarllenwyr yn y Saesneg!!

Mae ugain o ddarllenwyr yn y Gymraeg yn dorf!!

O! am gael ugain o ddarllenwyr yn y Gymraeg heb gyfrif mam a'm ffrindiau - fy seithfed nef! :D

Re: Be di gwerth blogio yn y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Sad 01 Medi 2007 9:19 pm
gan ceredigcaredig
Hen Rech Flin a ddywedodd:Wrth imi roi cychwyn ar flogio, tua mis Ebrill, fy mwriad oedd cynnal blog dwyieithog. Cefais fy mherswadio mae dau flog cyfochrog y naill yn y Gymraeg a'r llall yn y Saesneg oedd y trywydd callaf i'w dilyn. Felly mae gennyf dau flog cyfochrog Hen Rech Flin a Miserable Old Fart.

Rhaid cyfaddef bod mwy o byst Saesneg na rhai Cymraeg gennyf am amryfal resymau.

Dyma un ohonynt:

O ddanfon neges i MOF, bydd tua dau gant yn ei ddarllen. O ddanfon neges debyg i HRF bydd tua ugain yn ei ddarllen. Ar ddyddiau di neges bydd hyd at gant yn darllen MOF, ar ddyddiau di neges bydd tua neb yn darllen HRF.

Mae blog Saesneg Sanddef yn aelod o gymdeithas blogio o'r enw Blogpower, lle mae blogwyr gwleidyddol Prydeinllyd yn cefnogi cyd aelodau o'u grŵp trwy addo gwneud pethau megis:

* Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd

* Postio sylw er cynnal trafodaeth

*Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.

*Traws ymateb mewn pyst

Rwy'n blogio yn y Saesneg er mwyn cael dweud fy nweud, rwy'n blogio yn y Gymraeg er mwyn bod yn wleidyddol cywir fy nghefnogaeth i'r iaith!

A oes modd cynnal cymdeithas debyg i Blogpower i'r sawl sy'n blogio yn y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod ein perlau yn cael eu darllen gan gyd flogwyr, o leiaf, os nad gan neb arall?

Os ti'n dilyn y ddadl hon i'r pen beth yw'r pwynt ysgrifennu yn y Gymraeg o gwbwl, canu'n Gymraeg, neu hyd yn oed siarad Cymraeg?

Re: Be di gwerth blogio yn y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Sul 02 Medi 2007 5:36 am
gan Hen Rech Flin
ceredigcaredig a ddywedodd:Os ti'n dilyn y ddadl hon i'r pen beth yw'r pwynt ysgrifennu yn y Gymraeg o gwbwl, canu'n Gymraeg, neu hyd yn oed siarad Cymraeg?

Yn union, pe bai Dafydd Iwan yn canu yn y Saesneg, neu Bethan Gwanas yn ysgrifennu llyfrau Saesneg, neu Twm Morus yn barddoni yn y Saesneg bydda gynulleidfa lawer iawn fwy ganddynt. Wrth gyfrannu yn y Gymraeg mae dyn yn sylwi bod o'n cyfrannu i gynulleidfa lai, ac yn derbyn hynny o herwydd ei falchder o'i iaith a'i diwilliant.

Ond blydi hel, efo hanner miliwn o ddefnyddwyr y Gymraeg yn y byd, onid oes gan ddyn yr hawl i gwyno pan na fydd ond 20in ohonynt yn trafferthu darllen ei flog Cymraeg?

Re: Be di gwerth blogio yn y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Sul 02 Medi 2007 10:23 am
gan Macsen
Mae'n werth cofio bod mwy o bobol yn cyraedd tudalennau saesneg drwy ddamwain wrth chwilio am rywbeth arall. Felly tra bod cannoedd i weld yn darllen yn y saesneg a dim ond ugain yn y Gymraeg, o leia yn y Gymraeg ti'n gwybod eu bod yr 20 wedi dod yn unswydd i ddarllen dy flog tra yn Seasneg mae'n debygol mai chwilio am gyngor i ddelio gyda eu tad-yng-nghyfraith neu ceisio cael gwared o ogla cas o'r ystafell oedden nhw.

Re: Be di gwerth blogio yn y Gymraeg?

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 2:45 am
gan Hen Rech Flin
Macsen a ddywedodd:Mae'n werth cofio bod mwy o bobol yn cyraedd tudalennau saesneg drwy ddamwain wrth chwilio am rywbeth arall. Felly tra bod cannoedd i weld yn darllen yn y saesneg a dim ond ugain yn y Gymraeg, o leia yn y Gymraeg ti'n gwybod eu bod yr 20 wedi dod yn unswydd i ddarllen dy flog tra yn Seasneg mae'n debygol mai chwilio am gyngor i ddelio gyda eu tad-yng-nghyfraith neu ceisio cael gwared o ogla cas o'r ystafell oedden nhw.

Ie! Mae What's the German word for Fart?, cyfuniad o Mike German a Miserable Old Fart, (am wn i) yn ymchwiliad poblogaidd sydd yn cysylltu Google a MOF yn aml! :-)

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 10:59 am
gan SerenSiwenna
Ddim yn gwybod llawer am blogio ac ddim hefo llawer o amser heddiw i ddarllen y blog, ond bipies draw i weld yr un Cymraeg ac o ni yn hoffi'r ffordd oedd o'n edrych, lliwiau neis ayyb :winc: