Perthyn.com

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Perthyn.com

Postiogan Gladus Goesgoch » Llun 31 Maw 2008 6:14 pm

Gwerthaurogi'r gwaith caled, ond nid da lle gellir gwell, na?

I fod yn onest, Perthyn ydi un o'r gwefans salaf i fi erioed ddod ar ei thraws. Mae'r rhyngwyneb yn ffocin afiach i'r llygad, yn ffocin horrible i weithio efo, y features a help (a bron pop dim arall) yn an-ddealladwy ac ddim yn gneud beth mae o'n ddweud ar y tin. Ond just bod o'n Gymraeg "its gorra be good jeah?"

Na sori. Da ni'n haeddu gwell. Ie, ie, dowch yn ol ataf a dweud "adeilada di un dy hun te!". Wel, sori, jesd dadl blentynaidd sy'n besides the point ydi hynny. Coz y peth ydi dwi ddim yn gwbod syd i neud. Dwi jyst yn user - un or bobol da chi'n gneud websites fel hyn ar ei chyfer. Os fysa ni i gyd yn gallu gwneud yna bysa dim gwaith i bobol fel chi. Maddeuwch i mi ddweud, mae o yr agosaf peth i gachu. Os di rywun yn deud fel arall ma'n deud clwydda neu just yn crafu tin.

sori'r aur

(dim byd personal)

GG
I lost my burden; I went home leaping for joy, and I said to my neighbour who was sad, Why are you sad? I know my sins have been forgiven...
Rhithffurf defnyddiwr
Gladus Goesgoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Iau 13 Maw 2008 12:14 pm
Lleoliad: fy nghont

Re: Perthyn.com

Postiogan Rhys » Llun 31 Maw 2008 9:27 pm

Cytuno bod lle i wella, a sdim rhaid derbyn rhywbeth eilradd am ei fod yn Gymraeg....

Gladus Goesgoch a ddywedodd:Os fysa ni i gyd yn gallu gwneud yna bysa dim gwaith i bobol fel chi.


....ond, nid gwaith y boi ydi o, mae'n rhedeg busnes ei hun, a gwneud hyn yn ei amser rhydd yn ddi-dâl.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Perthyn.com

Postiogan 7ennyn » Llun 31 Maw 2008 10:11 pm

Gladus Goesgoch a ddywedodd:Gwerthaurogi'r gwaith caled, ond nid da lle gellir gwell, na?

I fod yn onest, Perthyn ydi un o'r gwefans salaf i fi erioed ddod ar ei thraws. Mae'r rhyngwyneb yn ffocin afiach i'r llygad, yn ffocin horrible i weithio efo, y features a help (a bron pop dim arall) yn an-ddealladwy ac ddim yn gneud beth mae o'n ddweud ar y tin. Ond just bod o'n Gymraeg "its gorra be good jeah?"

Na sori. Da ni'n haeddu gwell. Ie, ie, dowch yn ol ataf a dweud "adeilada di un dy hun te!". Wel, sori, jesd dadl blentynaidd sy'n besides the point ydi hynny. Coz y peth ydi dwi ddim yn gwbod syd i neud. Dwi jyst yn user - un or bobol da chi'n gneud websites fel hyn ar ei chyfer. Os fysa ni i gyd yn gallu gwneud yna bysa dim gwaith i bobol fel chi. Maddeuwch i mi ddweud, mae o yr agosaf peth i gachu. Os di rywun yn deud fel arall ma'n deud clwydda neu just yn crafu tin.

sori'r aur

(dim byd personal)

GG

Dwi'n dy bitio. Dwi'm yn amau mai'r rheswm am dy lid ydi'r ffaith nad oes gen ti ddim ffrindiau, nac ychwaith y gallu i wneud ffrindiau, ac felly bysa gwefan fel perthyn.com yn gwbl ddi-werth i ryw drajedi unig fel ti beth bynnag.

(dim byd personal)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Perthyn.com

Postiogan Duw » Llun 31 Maw 2008 11:35 pm

Bois bach, mae digon o wenwyn yma i atgofodi dialup. Mae perthyn.com yn syniad da, ond fel pob gwefan newydd, mae'n esblygu gydag amser - stim modd iddo edrych yn ffantastig o'r cychwyn (heb law bod miloedd ar ben miloedd o bunnoedd tu ol iddi). Chwarae teg - dros 1000 o aelodau - not bad. Un awgrym - a oes modd torri lawr ar y lliwiau? Na byger it, dangos fy oedran nawr - cer amdani.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Perthyn.com

Postiogan Gladus Goesgoch » Maw 01 Ebr 2008 10:59 am

7ennyn a ddywedodd:Dwi'n dy bitio. Dwi'm yn amau mai'r rheswm am dy lid ydi'r ffaith nad oes gen ti ddim ffrindiau, nac ychwaith y gallu i wneud ffrindiau, ac felly bysa gwefan fel perthyn.com yn gwbl ddi-werth i ryw drajedi unig fel ti beth bynnag.


Ie, dyna pam fod gin i dros 1000 o ffrindiau yn y byd real, tra fod chdi yn styc ar y web ac yn mynd yn bersonal a blentynaidd wrth amddiffyn gwefan fel tasa hi'n ffrind gorau i chdi... jesd bod rhywun yn digwydd meddwl yn wahanol am dani...

Pan fyddi' hen a pharchus ac yn edrych yn ol gobithio fyddi di'n fodlon efo dy ymdrechion i fyw fywyd i'r eithaf :rolio:
I lost my burden; I went home leaping for joy, and I said to my neighbour who was sad, Why are you sad? I know my sins have been forgiven...
Rhithffurf defnyddiwr
Gladus Goesgoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Iau 13 Maw 2008 12:14 pm
Lleoliad: fy nghont

Re: Perthyn.com

Postiogan Ray Diota » Maw 01 Ebr 2008 11:08 am

Gladus Goesgoch a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Dwi'n dy bitio. Dwi'm yn amau mai'r rheswm am dy lid ydi'r ffaith nad oes gen ti ddim ffrindiau, nac ychwaith y gallu i wneud ffrindiau, ac felly bysa gwefan fel perthyn.com yn gwbl ddi-werth i ryw drajedi unig fel ti beth bynnag.


Ie, dyna pam fod gin i dros 1000 o ffrindiau yn y byd real


:lol:

ti di rhoi rhif i bob un?

odd 'na adeg pan mai cecran fi a gwahanglwyf dros grist odd y peth tristaf ar maes-e... ffaaaaarcin hel ma'i 'di mynd yn ddiflas 'ma...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Perthyn.com

Postiogan Gladus Goesgoch » Maw 01 Ebr 2008 2:52 pm

999 nawr :P
I lost my burden; I went home leaping for joy, and I said to my neighbour who was sad, Why are you sad? I know my sins have been forgiven...
Rhithffurf defnyddiwr
Gladus Goesgoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Iau 13 Maw 2008 12:14 pm
Lleoliad: fy nghont

Re: Perthyn.com

Postiogan 7ennyn » Maw 01 Ebr 2008 5:05 pm

Gladus Goesgoch a ddywedodd:Ie, dyna pam fod gin i dros 1000 o ffrindiau yn y byd real...

Tydi dy chwain ddim yn cyfri! :winc:

Yr hyn wnaeth i mi ymateb fel wnes i oedd bod yna rhyw hen arlliw gwenwynllyd di-angen i dy feirniadaeth o'r wefan. I ddeud y gwir, roeddet ti'n swnio'n rel sboilt brat.

Fyswn i'n hanner maddau i ti 'tasa rhywfaint o dy drethi wedi mynd tuag at y prosiect - ond, hyd y gwn i, tydi perthyn.com heb ysgafnhau dim ar bwrs y wlad. Mi fysat ti'n cael maddeuant llawn gen i tasa chdi wedi talu pres budur o dy boced din dy hun am y fraint o gael ymuno, ond dwi'n reit siwr na wnest ti ddim. Mae gwefannau annibynnol, gwreiddiol Cymraeg yn cael eu creu gan unigolion brwdfrydig sydd yn gwirfoddoli oriau maith o'u hamser sbar a swm reit sylweddol o bres o'u poced eu hunain. Yr unig bethau mae nhw angen gan eu defnyddwyr ydi beirniadaeth adeiladol, awgrymiadau ac anogaeth. Dwyt ti ddim yn cynnig yr un o'r rhain. Nid Google, Facebook, BBC a.y.y.b. mohonynt - mae yna bersonau go iawn hefo teimladau go iawn y tu ol i wefannau annibynnol Cymraeg, felly meddylia cyn bod mor ymosodol a gwenwynllyd amdanyn nhw yn y dyfodol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Perthyn.com

Postiogan ger4llt » Maw 01 Ebr 2008 7:28 pm

Cytuno a phob un ohonoch chi - GG, ma Luke Williams (perchenog y wefan/Lukeskywilliams ar maes-e) wedi ymdrechu o'i wirfodd i greu wefan fel hyn - ymdrech unigol bersonol, a fo 'di'r cynta i wneud rhywbeth o'r fath, felly dwi'n 'i barchu fo'n fawr. Os nad wyt ti wedi sylwi, mae Luke wedi bod yn ymateb i'r edefyn yma, a felly ma 'na siawns uchel iddo weld hwn. Wrth gwrs, ma angen, ac yn hollbwysig i wefan fach fel hyn gael adborth gan ddefnyddwyr (wyt ti yn ddefnyddiwr, wedi arbrofi â'r wefan a gweld ei lawn botensial o gwbl, neu dim ond wedi crafu'r wyneb?), ond fan hyn ti di mynd chydig bach yn rhy bell, a 'di mynd yn fwriadol sarhaus o be welwn i. Mae'r wefan dal yn ifanc iawn, a dwi'n meddwl bod LW yn ei ddatblygu ar hyn o bryd (ffynhonell mini-fforwm perthyn), neu o leiaf yn bwriadu ei ddatblygu yn y dyfodol agos. Cofia 'i fod o ar ganol datblygu sawl wefan Gymraeg arall ar hyn o bryd hefyd: Sgrin, Hysbysebu a Chwilotydd tra'n rhedeg bwyty ac yn brif gogydd mewn bwyty yng Nghaernarfon. :o Felly GG dwi'n meddwl dylet ti ddarganfod mwy am gefndir y wefan cyn dechrau ryw ymosodiad fel hyn.

A be uffar ma "(dim byd personal)" yn 'i olygu ta? Esbonia.
Golygwyd diwethaf gan ger4llt ar Maw 01 Ebr 2008 9:27 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Perthyn.com

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 01 Ebr 2008 8:38 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Gladus Goesgoch a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Dwi'n dy bitio. Dwi'm yn amau mai'r rheswm am dy lid ydi'r ffaith nad oes gen ti ddim ffrindiau, nac ychwaith y gallu i wneud ffrindiau, ac felly bysa gwefan fel perthyn.com yn gwbl ddi-werth i ryw drajedi unig fel ti beth bynnag.


Ie, dyna pam fod gin i dros 1000 o ffrindiau yn y byd real


:lol:

ti di rhoi rhif i bob un?

odd 'na adeg pan mai cecran fi a gwahanglwyf dros grist odd y peth tristaf ar maes-e... ffaaaaarcin hel ma'i 'di mynd yn ddiflas 'ma...


O tua 1'50 'mlaen...

http://www.youtube.com/watch?v=n5jpVbEL0jc
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron