Pawb a'i barn Gladys a dwi'n cytuno hefo rhai pethe, sdim rhaid bod yn fabiaidd chwaith nagoes !
Dwi'n gwybod bod edrychiad Perthyn angen ei gwella ac bod yr adran cymorth eisiau ei ail wneud ayyb ond heb arian mae o yn mynd i gymryd o leia blwyddyn da arall i mi "sortio" fo allan go iawn ! Fel dywedodd Gerallt mae gen i un neu ddau o brosiectau eraill rwy'n rhoi fy egni i mewn i, Hefyd mae hi'n ddechrau tymor i mi yn y bwyty sydd yn feddwl fy mod i'n gweithio tua 14 awr y diwrnod yn y fan hono. Gan fy mod i ddim hefo arian i hysbysebu, rwy'n gorfod gwneud hyn i gyd "by hand" sydd yn cymryd dipyn o oriau mewn diwrnod. Mi ddaw y gwefannau yn ei blaen yn araf bach nes i mi gael rhiw fath o gymorth arianol o rhiwle.
Ar hyn o bryd mae nifer o aelodau yn bwysicach i mi na edrychiad y safle, ac unwaith ga i ddigon o aelodau ar y safle mi wnai edrych i mewn i ddatblygu'r safle yn bellach ac ei wneud o'n llai llachar. Hydynoed os yw'r aelodau ddim yn dod yn ol i'r gwefan mae gen i gyfeiriad e-bost pawb i'w anog nhw yn ol pan bydd wedi gael ei ddatblygu.
Luke