Perthyn.com

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Perthyn.com

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 31 Awst 2007 3:09 pm

Gwefan gymunedol Gymraeg newydd...

http://www.perthyn.com

Tipyn o wallau iaith o amglych y lle, ond peth bach yw hynny os yw'r wefan wedi cael ei chyfieithu gan rywun - ma hanner cyfieithiadau Pictiwrs chydig bach yn weird.

Sgwn i be ddaw o hwn?

Difyr.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 09 Medi 2007 2:20 pm

Ma hwn yn syniad gwych, a llongyfarchiadau i'r rhai sydd wedi ei adeiladu.

Fi newydd dderbyn yr ebost yma, os oes unrhywun yn gallu cynnig helpu gyda cywiro'r gwallau iaith, cysylltwch gyda Ynperthyn[at]aol.com

Safle rhyngrhwyd cymdeithasol cyntaf yn yr iaith Cymraeg yw Perthyn.com, fel Myspace, Bebo Friendster a'r gweddill ond yn yr iaith Gymraeg. Mi gafodd ei greu wythnos dwytha. Y peth yw mae yna lawer o gamgymeriadau syllafu ac treiglo ar y safle. Os gallwch helpu i gywiro neu yn gwybod am rhiwyn wneith helpu i ddatrus y camgymeriadau yma, plis gadewch i mi wybod.

Diolch
Luke Williams
http://www.Perthyn.com


Mae hefyd yn drueni fod rhaid i chi ddewis 'United Kingdom' fel gwald ar hyn o bryd, a does dim modd dewis Cymru (neu Lloegr, Yr Alban ayb). Efallai gall rhywyn sydd a sgiliau technegol ddatrys y broblem yma hefyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 18 Medi 2007 6:42 pm

Faint o aelodau'r maes sydd wedi ymuno â hwn?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Chip » Maw 18 Medi 2007 7:55 pm

er bo y peth yn swno'n syniad reit da, a fydd pobl yn defnyddio'r peth llawer am fod rhan fwyaf or pobl dwi'n nabod sydd gyda Bebo yn defnyddio'r cymraeg beth bynnag yno ac yn sgwrsio yno yn gymraeg.
ond ar llaw arall mae bach fel engraifft o maes-e mewn ffurf arall felly ma na obaith... efallai. pob lwc.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 02 Hyd 2007 8:08 pm

Gan perthyn.com 263 aelod nawr, ond ar y Grwp Facebook sy'n galw am Facebook Cymraeg mae 2,580 aelod! Felly ymunwch bois bach...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Bron yn Bump Cant

Postiogan Lukeskywilliams » Maw 30 Hyd 2007 1:40 pm

Mae yno 497 o aelodau ar perthyn nawr bron yn bump cant !
Delwedd Anrhegion Personol Cymraeg
Lukeskywilliams
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Maw 30 Hyd 2007 1:30 pm

Postiogan ger4llt » Maw 30 Hyd 2007 4:57 pm

Diom yn ddrwg o gwbl, jysd bod rhai pethau yn anodd i ddeall i gychwyn, megis y system "bwyntiau"... tebyg i 'food fight' Facebook, ond i brynu anrhegion i ffrindiau 8)

ond chwara teg ma'r 'Perchenog' gyda amser i ateb cwestiynau pawb. :winc:

Caria mlaen gyda'r gwaith da Luke!! Ma'n neis gweld bod rhywun wedi gweld sens bod angen gwefan o'r fath o'r diwedd i'r Cymry. :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 30 Hyd 2007 5:01 pm

ger4llt a ddywedodd:Caria mlaen gyda'r gwaith da Luke!! Ma'n neis gweld bod rhywun wedi gweld sens bod angen gwefan o'r fath o'r diwedd i'r Cymry. :D


Yn union! Trueni nad oes mwy wedi ymuno hyd yma, ond wnaeth gymryd tipyn o amser i faes-e ddod mor boblogaidd...

Os ti'n darllen hwn ond heb ymuno, ymuna nawr - http://www.perthyn.com/signup/ :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Lukeskywilliams » Sad 24 Tach 2007 10:52 am

ger4llt a ddywedodd:Caria mlaen gyda'r gwaith da Luke!! Ma'n neis gweld bod rhywun wedi gweld sens bod angen gwefan o'r fath o'r diwedd i'r Cymry. :D


Diolch ger4llt. Mae Perthyn yn dechrau codi ar ei draed rwan mae yno 846 o aelodau hyd yn hyn ac tua 20 yn aelodi bob dydd.

Luke
Delwedd Anrhegion Personol Cymraeg
Lukeskywilliams
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Maw 30 Hyd 2007 1:30 pm

Re: Perthyn.com

Postiogan Lukeskywilliams » Llun 21 Ion 2008 2:09 am

Perthyn yn tyfu, mae yno 1157 o aelodau rwan, Mae'r adran cerddoriaeth ar agor hefyd ac nawr mi allwch rhoi caneuon Fanta, Gwirioneddol ac Gwiber ar eich proffil !
Delwedd Anrhegion Personol Cymraeg
Lukeskywilliams
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Maw 30 Hyd 2007 1:30 pm

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron