Chwilotydd.com
Postiwyd:
Gwe 15 Chw 2008 4:47 pm
gan Lukeskywilliams
http://www.chwilotydd.comIawn, ella bod y safle yma ychydig fel gwgl.com ac y cewch chwi ymchwilio'r we trwy'r gyfrwng Gymraeg, ond mae yno un elfen gwahanol iawn.
Os oes gwefannau Cymraeg yn gronfa ddata Y Chwilotydd sydd yn cynwys y gair yr ydych yn ei chwilio amdani, byddant yn ymddangos yn gyntaf yn y rhestr !
Ewch draw i weld !
Luke
Re: Chwilotydd.com
Postiwyd:
Gwe 15 Chw 2008 4:55 pm
gan Mali
Diolch am y linc...newid o gwglo.
Re: Chwilotydd.com
Postiwyd:
Sad 16 Chw 2008 8:25 pm
gan ger4llt
Gan gofio cael Perthyn.com yn gyntaf ar bob rhestr ynde Luke!
Re: Chwilotydd.com
Postiwyd:
Sul 17 Chw 2008 11:26 am
gan Lukeskywilliams
Diolch, nic am ddod a fy sylw i hyn. Mae'r chwilotydd yn gweithio hefo'r bas data ac doedd gen i ddim saflaeoedd blogio yn y bas data. Fel ti'n gweld mi ydw i wedi ychwanegu saflaeoedd blogio cymraeg i'r bas data nawr ac mae'r canlyniadau yn reit deg rwan.
Y mwyaf o saflaeoedd Cymraeg gwahanol sydd yn cael ei ychwanegu ir bas data y gorau fydd y chwilotydd. Os ti'n gweld hyn yn digwydd hefo unrhiw allweddeiriau eraill rho wybod i mi.
Gerallt, os yw Perthyn yn cynwys yr allweddair, well wrthgwrs mae o yn mynd i ddangos ar y brig yn union fel mae maes-e hefo'r allweddair "Dangos" gan bod "Dangos pwnc" ar bob un tudalen. Tydi'r Chwilotydd heb gael ei rigio i ddangos Perthyn ar y brig os hynnu ti'n awgrymu. Mae gan bob gwefan yn y bas data yr union rhyn cyfle. Ac fel ddwedais i yn gynharach mae bob peth yn dibynnu ar y nifer o saflaeoedd Cymraeg fydd yn cael ei ychwanegu i'r bas data.
Luke