Hysbysebu.com

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hysbysebu.com

Postiogan Lukeskywilliams » Gwe 15 Chw 2008 5:00 pm

http://www.hysbysebu.com

O'r diwadd dwi wedi gorffen creu safle sydd yn cynnig nodweddau "google Ads" i wefannau Cymraeg.

Ar ol aelodi mi gewch chwi werthu hysbysebion ysgrifenedig, baneri neu hydynoed hysbysebion fideo ar eich safle. Wrth rhoi cod ar y tudalen lle y bysach chwi'n hoffi i'r hysbysebion ddangos, mi fyddwch yn gallu gwerthu hysbysebion yn syth o'ch gwefan.

Mi all y cyhoeddwr ddylunio syt maent eisiau y hysbysebion ymddangos, derbyn neu gwrthod bob hysbyseb, ac gosod prisiau am yr hysbysebion hyn.

Medrwch osod pris am ddiwrnod, am wythnos, am fis o hysbysebu neu dewis pris am bob clec.

Os oes ganddoch chwi wefan ac ydych eisiau gwerthu neu prynnu hysbysebion trwy'r gyfrwng Gymraeg yno ewch draw yno nawr.

Luke
Delwedd Anrhegion Personol Cymraeg
Lukeskywilliams
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Maw 30 Hyd 2007 1:30 pm

Re: Hysbysebu.com

Postiogan Duw » Gwe 22 Chw 2008 11:06 pm

Ddim yn gwybod beth sy'n digwydd yma Luke - ces i'r datganiad:

"Could not connect: Access denied for user 'nobody'@'localhost' (using password: NO)"

wrth geisio a chysylltu a'r hafan. Wedi'i drio gyda sawl porwr - r'un ateb.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Hysbysebu.com

Postiogan HuwJones » Iau 28 Chw 2008 11:53 am

Da iawn ti Luke - am setio hwnna fyny. Blydi Gwych!
Gobeithio bydd llawer yn ei ddefnyddio a'i chefnogi.

Oes gent ti syniadau am sut i hybu defnydd o Hysbysebu.com?? Wyt ti'n danfon allan Ebost/Flyers etc i adael i sefydliadau, mudiadau/ busnesau Cymraeg gwybod? Wyt ti wedi trio cael sylw ar y Cyfryngau Cymraeg? (fel arfer dydan nhw ddim yn rhoi sylw i'r fath yma o beth gwaetha modd). Tasa dda cael gwybod sut ti'n mynd ati a pa ymateb ti'n cael.... faset ti'n gallu postio negeseuon o bryd i'w gilydd ar Maes-E ??

Mae unigolion fel ti yn treulio lot fawr o amser fel llafur o gariad yn creu prosiectau digidol Cymraeg / cyfieithu meddalwedd ond, am wn i, does na ddim ffordd hawdd i 'farchnata' yr holl pethau yma i annog y cyhoedd i'w defnyddio. Gobeithio bydd Hysbysebu.com yn cael mwy o gefnogaeth na phethe dwi wedi bod yn ymwneud a nhw (sori dwi ddim eisiau bod yn negyddol). Dwi wedi treulio lot fawr o amser yn cyfieithu "LimeWire" ond heblaw am un neges i Maes-E dwi'n cael hi'n anodd i ffendio ffordd arall i adael i bobl wybod bod fersiwn Cymraeg ar gael.

I ddweud y gwir does dim ymdrech o ddifri wedi bod BYTH i hyrwyddo / hybu meddalwedd / gwefannau Cymraeg. Mae Bwrdd yr Iaith yn cynnal arolwg mewn i'r peth ond heb wneud dim byd arall eto. Does dim arian/adnoddau gan Gymdeithas Meddalwedd Cymru i'w gwneud.

Y gobaith gorau, dwi'n meddwl, bydd os ydan ni'n ennill yr hawl i gael "dotCym" . Mae siawns wedyn bydd sylw yn y wasg etc.. yn helpu creu ymwybyddiaeth ymhlith siradwyr Cymraeg bod compiwters ddim gorfod bod yn Saesneg yn unig.

Pob llwyddiant i Hysbyseb.com!!!!!
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Hysbysebu.com

Postiogan Lukeskywilliams » Iau 28 Chw 2008 10:26 pm

Y cam gyntaf dwi am gymryd i hybu hysbysebu.com yw creu rhyngrhwyd o wefanau Cymraeg cyffroes eraill ac defnyddio hysbysebu.com i werthu hysbysebion ar rheini. Mae Perthyn.com yn lle dda i mi ddechrau defnyddio hysbysebu.com ac y syniad bydd i wneud hyn hefo bob un o fy saflaeoedd eraill.

Yn ogystal a dangos yr blwch hysbysebu.com ar bob un o'r saflaeoedd byddwn yn rhoi baner oddiwrth bob un or saflaeoedd eraill dwi yn creu hefyd. Yn creu rhyngrhwyd o wefanau gwneith hybu ei gilydd ac ar y rhyn ffordd hybu hysbysebu.com

Hyd yn hyn mae Perthyn.com ac chwilotydd.com yn rhan o'r rhyngrhwyd yma, ac dwi yng nghanol creu dwy gwefan arall allai ddim son am eto.

Am fy mod i yn berchen ar fwyty ac yn gweithio yno yn llawn amser ni allwn i fynd allan ac marchnata ac ar hyn o bryd tydi Perthyn ddim yn gwneud digon o arian i mi gallu talu rhiwyn i wneud hyn. Mae hyn yn feddwl fy mod i'n gorfod gwneud fy hysbysebu i gyd "arlein" ac fel ti'n dweud does dim digon o lefydd i farchnata saflaeoedd Cymraeg.

Byswn i wrth fy modd os byswn yn gallu mynd i'r Eisteddfod blwyddyn yma hefo panffledi, mi fysa''n hysbys da. Ond mae hi'n uffernol o brysur yn y bwytu pryd hynnu. Dwi'n meddwl creu cystadlaeaeth i aelodau Perthyn efo gwobr o £100. lle bydd aelodau yn rhoi ei cyfeiriad i mi gael danfon "sticyrs" iddynt (Fel Rhai Cymuned) ac y bwriad bydd iddynt dynnu ei llun nesa i "sticyr" wedi ei lynu i rhiwbeth neu yn rhiwle ar maes yr eisteddfod. Bydd yr un mwyaf doniol yn enill y £100 wobr.

Ar rhyn o bryd dwi'n meddwl yr unig ffordd i ni gael fwy o hysbys fel gwefanau/cyfieithwyr meddalwedd Cymraeg yw wrth greu mwy o saflaeoedd Cymraeg ac gweithio hefo'n gilydd. Mae yna bwer mewn niferoedd ac mi fydd hi'n anodd iawn i'r cyhoedd neu Bwrdd Yr Iaith ein osgoi.

Luke
Delwedd Anrhegion Personol Cymraeg
Lukeskywilliams
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Maw 30 Hyd 2007 1:30 pm


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai