Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.
syniad difyr. ond be sy gen ti mewn golwg gyda'r "voiceover" 'ma? rwy'n cofio gweld the nanny ar y teledu yn yr eidal unwaith, ac yn lle boddran talu am fwy nag un actor, ro'n nhw jest 'di cael un boi i recordio sylwebaeth, gan gynnwys lot o araith anuniongyrchol: "dyma'r nanny yn cynnig mynd â'r plant i ginio diolchgarwch ei theulu hi..." ac ati. chwerthinllyd!
Nesh i gyfarfod boi wsnos dwetha oedd yn dweud fod ei fab yn isdeitlo pob rhaglen o Lost mewn Catalaneg a'u postio ar y we o fewn 48 awr iddyn nhw gael eu dangos. Hyn oll yn wirfoddol. Gwych de.