Tudalen 1 o 1

Torchwood yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 13 Meh 2008 4:30 pm
gan sanddef
Dw'i wedi creu grwp newydd ar Facebook: Torchwood yn Gymraeg!

Oes 'na unrhywun yma a hoffai greu fideo YouTube o Torchwood gyda 'voiceover' yn Gymraeg am laff?

Re: Torchwood yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 13 Meh 2008 6:00 pm
gan asuka
syniad difyr. ond be sy gen ti mewn golwg gyda'r "voiceover" 'ma?
rwy'n cofio gweld the nanny ar y teledu yn yr eidal unwaith, ac yn lle boddran talu am fwy nag un actor, ro'n nhw jest 'di cael un boi i recordio sylwebaeth, gan gynnwys lot o araith anuniongyrchol: "dyma'r nanny yn cynnig mynd รข'r plant i ginio diolchgarwch ei theulu hi..." ac ati. chwerthinllyd!

Re: Torchwood yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 13 Meh 2008 6:56 pm
gan Griff-Waunfach
Os ydych chi yn gwneud, rhowch linc yn fan yma. Hoffwn i weld e!

Re: Torchwood yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 13 Meh 2008 8:04 pm
gan Mwnci Banana Brown
Rwbeth tebyg i Taff Wars ife?

Re: Torchwood yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 14 Meh 2008 6:06 am
gan sanddef
Yn union :D

Re: Torchwood yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 14 Meh 2008 3:13 pm
gan Kez
Swn i'n dwli dysgu shwt mae gwneud re-dubs i'r gymraeg ar ffilmiau poblogaidd.

Mae hon yn enghraifft wych o bobol yn ffwlffacan gyda'r Sound of Music - 'How to solve a problem like Maria' with Sister Cocksucker a'i ffrindiau:


Re: Torchwood yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 16 Meh 2008 1:26 pm
gan Rhodri Nwdls
Nesh i gyfarfod boi wsnos dwetha oedd yn dweud fod ei fab yn isdeitlo pob rhaglen o Lost mewn Catalaneg a'u postio ar y we o fewn 48 awr iddyn nhw gael eu dangos. Hyn oll yn wirfoddol. Gwych de.