gobeithio y gall rhywun roi peth cyngor ifi...
rwy moyn creu is-deitlau cymraeg ar gyfer cwpwl o fy hoff ffilmiau anime. (alla i'm gweld unrhyw beth fel 'na ar y we yn barod, ac mae rhaid ei wneud - a hyd yn oed os nad un fel fi sy'n dysgu cymraeg yw'r person delfrydol i wneud y gwaith, o leia' y fi a fydd wedi'i wneud e gynta' yntê )
ond sa' i'n hollol siwr sut mae dechrau arno. oes 'na rywun yma sy 'di gwneud sut brosiect o'r blaen?
rwy 'di bod yn edrych ar y wefan dotSUB.com, ac mae DVDs 'da fi o ffilmiau y leiciwn i dechrau gyda nhw, ond... pa feddalwedd sy eisiau er mwyn trosglwyddo'r peth i'r we'? h.y. sut mae creu ffeil sy'n gallu cael ei lanlwytho yn y lle cynta'? (rwy'n ffaelu ffeindio copïau o fy ffilmiau ar y we yn barod heb eu trosleisio'n saesneg, gwaetha'r modd).
diolch am unrhyw gymorth - a sori am wastraffu eich amser chi'r hacyrs gyda chwestiwn mor sylfaenol...