Tudalen 1 o 1

creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 17 Meh 2008 1:17 am
gan asuka
gobeithio y gall rhywun roi peth cyngor ifi...
rwy moyn creu is-deitlau cymraeg ar gyfer cwpwl o fy hoff ffilmiau anime. (alla i'm gweld unrhyw beth fel 'na ar y we yn barod, ac mae rhaid ei wneud - a hyd yn oed os nad un fel fi sy'n dysgu cymraeg yw'r person delfrydol i wneud y gwaith, o leia' y fi a fydd wedi'i wneud e gynta' yntê :) )
ond sa' i'n hollol siwr sut mae dechrau arno. oes 'na rywun yma sy 'di gwneud sut brosiect o'r blaen?
rwy 'di bod yn edrych ar y wefan dotSUB.com, ac mae DVDs 'da fi o ffilmiau y leiciwn i dechrau gyda nhw, ond... pa feddalwedd sy eisiau er mwyn trosglwyddo'r peth i'r we'? h.y. sut mae creu ffeil sy'n gallu cael ei lanlwytho yn y lle cynta'? (rwy'n ffaelu ffeindio copïau o fy ffilmiau ar y we yn barod heb eu trosleisio'n saesneg, gwaetha'r modd).
diolch am unrhyw gymorth - a sori am wastraffu eich amser chi'r hacyrs gyda chwestiwn mor sylfaenol... :wps:

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 17 Meh 2008 11:10 am
gan Rhodri Nwdls
asuka a ddywedodd:gobeithio y gall rhywun roi peth cyngor ifi...
rwy moyn creu is-deitlau cymraeg ar gyfer cwpwl o fy hoff ffilmiau anime. (alla i'm gweld unrhyw beth fel 'na ar y we yn barod, ac mae rhaid ei wneud - a hyd yn oed os nad un fel fi sy'n dysgu cymraeg yw'r person delfrydol i wneud y gwaith, o leia' y fi a fydd wedi'i wneud e gynta' yntê :) )
ond sa' i'n hollol siwr sut mae dechrau arno. oes 'na rywun yma sy 'di gwneud sut brosiect o'r blaen?
rwy 'di bod yn edrych ar y wefan dotSUB.com, ac mae DVDs 'da fi o ffilmiau y leiciwn i dechrau gyda nhw, ond... pa feddalwedd sy eisiau er mwyn trosglwyddo'r peth i'r we'? h.y. sut mae creu ffeil sy'n gallu cael ei lanlwytho yn y lle cynta'? (rwy'n ffaelu ffeindio copïau o fy ffilmiau ar y we yn barod heb eu trosleisio'n saesneg, gwaetha'r modd).
diolch am unrhyw gymorth - a sori am wastraffu eich amser chi'r hacyrs gyda chwestiwn mor sylfaenol... :wps:

Maes-e calling Rhys Wynne? Dwi'n siwr fod o'n gwybod am feddalwedd ar y we i wneud hyn.

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Mer 18 Meh 2008 7:54 pm
gan Rhys
dotSUB fyddwn i wedi awgrymmu ond dwi erioed wedi uwchlwytho fideo ato - dweud y gwir dwi'n gwbod ychydig iawn am ffeiliau sain a fideo ar y we. Mae tiwtorial ar dotSUB fyddai'n dweud pa fformat sydd angen mae'n siwr, ond mae llais y boi yn annoying a stopiodd y fideo hanner ffordd trwodd. Byddwn yn dychmygu byddai'n derbyn rhai mewn fformat .wav (?)

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Mer 18 Meh 2008 9:50 pm
gan aderyn melyn
sa i'n esgus gwybod dim am y pwnc 'ma, felly mae croeso i ti fy anwybyddu os dwi'n siarad lol :lol: ond beth am edrych i weld pa fformat sy'n cael eu cynnig os wyt ti am lawrlwytho fideo? wedyn byddi di'n gwbod pa fformat bydd angen i ti ei ddefnyddio, a gei di edrych am feddalwedd sy'n creu ffeiliau o'r fath. dechrau gyda'r diwedd a gweithio nol ... gobeithio fod hynny'n gwneud synnwyr.

a chwarae teg i ti am wneud prosiect o'r fath 8)

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 4:22 pm
gan asuka
diolch am eich help chi - awgrymiadau call pob un. (paid becso am siarad lol - anodd gwybod llai am hyn i gyd na fi!) mae'n debyg bydd rhaid wrth lot o arbrofi er mwyn cael y peth i weithio. ond os gweithiff e bydda' i'n siwr o roi gwybod!

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 21 Meh 2008 12:03 pm
gan Duw
dotSub - gweithio'n iawn i mi Rhys.

Parthed lanlwytho fideo - bydd yn ofalus o hawlfraint! Gwirio fod hawl gennyt lanlwytho'r fideo.

O ran fformatau - gallet ddefnyddio pecyn golygu fideo (mae nifer o gwmpas £100-150 yn caniatau hyn) i roi is-deitlau i'r darn a'i arbed yn y fformat o'th dewis. Os wyt am ei lanlwytho, gallet ddefnyddio fformat flv neu swf. Os nac wyt yn gallu arbed i'r fformatau hyn, gallet lawrlwytho pecyn o'r enw @Super sy'n becyn arbennig i drawsffurfio fformatau (er mae llawer o sgriniau i fynd trwyddynt cyn dod o hyd i'r ddolen lawrlwytho) [chwilia am super mewn google].

Un problem geid di wrth drawsffurfio i fformat flv a'r tebyg yw bydd ansawdd y fideo yn llai a bydd y gallu i ddarllen yr is-deitlau efallai'n broblem. Efallai bydd modd ei wneud gan ddefnyddio Flash MX neu CS3 - er dwi heb eu defnyddio llawer (ffobia Flash :rolio: ).

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 21 Meh 2008 4:22 pm
gan asuka
diolch o galon am y wybodaeth. hmmm. wnes i byth sylweddoli tra'n gwylio ffan-sybs ar y we bod hi mor ddrud creu cynnwys atynt . :ofn: mi wna' i ychydig yn rhagor o edrych o gwmpas, a tsieco mas y feddalwedd a awgrymaist ti - ac wedyn mae'n debyg y dechreua' i gyda rhywbeth sydd ar gael ar y we yn barod...!

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Sul 22 Meh 2008 7:44 pm
gan Duw
asuka: dwi ddim yn meddwl ei fod yn gostus iawn o gwbl. Gwnes roi £100-150 fel rhaglen nodweddiadol (llawn bangs and whistles). Dwi'n siwr gallet gael yr un swyddogaethau o rhaglen llawer rhatach - hyd yn oed rhaglen rhad ac am ddim (gwiria sourceforge am feddalwedd rhad ac am ddim/ffynhonnell-agored). Mae @Super yn rhad ac am ddim. Mae dotSub yn edrych yn fet dda.

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 24 Meh 2008 2:51 pm
gan asuka
Duw a ddywedodd:asuka: dwi ddim yn meddwl ei fod yn gostus iawn o gwbl. Gwnes roi £100-150 fel rhaglen nodweddiadol (llawn bangs and whistles). Dwi'n siwr gallet gael yr un swyddogaethau o rhaglen llawer rhatach - hyd yn oed rhaglen rhad ac am ddim (gwiria sourceforge am feddalwedd rhad ac am ddim/ffynhonnell-agored). Mae @Super yn rhad ac am ddim. Mae dotSub yn edrych yn fet dda.

diolch am y calondid - rwy 'di bod yn edrych o gwmpas ychydig ar y we ac na, ddylai ddim bod yn rhy gostus, diolch byth. "mac" 'mhriod i rwy'n ei iwsio ar hyn o bryd, felly sa' i'n credu y gwnelai @super y tro gwaetha'r modd, ond ar ôl lawrlwytho rhaglen "ripper" a'r rhaglen mpeg streamclip (sy'n addo trawsffurfio'r fformatau) a gwario ychydig iawn o arian ar plug-in ar gyfer quicktime (i gael y mpeg streamclip i weithio'n iawn - 'sdim byd yn syml nac oes?), rwy bellach yn gallu gwneud beth bynnag sy eisiau i iwsio dot.SUB yn iawn 'mwn i (sa' i moyn dim o dy whistles, diolch - fyddwn i ddim yn gwybod sut mae eu hiwsio nhw!)
treia' i brosiect bach preifat gyntaf oll fel prawf. os taw y fi a gwesteion yn unig a geiff wylio'r peth i ddechrau, gwna' i ddim poeni gormod am y cwestiynau hawlfraint y tro hwn...

Re: creu is-deitlau cymraeg

PostioPostiwyd: Mer 25 Meh 2008 7:50 pm
gan asuka
mae'n debyg nad oes digon o bandwidth 'da ni (o bell ffordd) i iwsio dot.SUB wedi'r cwbwl. T_T
bydd yn rhaid i'r prosiect 'ma aros nes inni gael tŷ newydd a broadband ym mis awst! (wireless am ddim rwy'n ei iwsio fan hyn diolch i'n cangen ni o lyfrgell gyhoeddus efrog newyddd mae'n stafell wely ni'n edrych i mewn i'w ffestri cefen ^^)