Y Celwyddoniadur
Postiwyd: Iau 19 Meh 2008 2:32 am
A oes rhywun wedi dod ar draws y wefan hon o'r blaen http://cy.uncyclopedia.org.uk/wiki/Hafan
Dyma'r esboniad y tu ol iddo fe:
Gwyddoniadur - neu encyclopedia - yw'r Celwyddoniadur, fel ein cyfaill annwyl y wicipedia, ond yn llai o stress. Mae hwn yn gyfle i ddianc rhag obsesiwn wicipedia gyda ffeithiau, cywirdeb a thegwch. Yn y Celwyddoniadur mae pethau eraill pwysicach na'r rhinweddau a nodwyd; yn wir nid yw cywirdeb ffeithiol yn rhywbeth yr ydym yn anelu tuag ato o gwbl. I'r gwrthwyneb, ein nod yw darparu cymaint o wybodaeth anghywir, camarweiniol a gwallus ag sy'n bosibl. Dyddiau cynnar yw hi, ond gyda dyfalbarhad a'ch cymorth chi, y gobaith yw y gallwn greu adnodd cwbl ddibwrpas ar gyfer y Gymru fodern
Dyma'r cofnod ar Adolf Hitler:
Unben yn yr Almaen oedd Adolf Hitler, a fu'n gyfrifol am farwolaeth miliynau o bobl ar ddechrau'r ail ryfel byd. Ennodd hyn enw drwg iddo ledled y byd, ond yng Nghymru mae'n fwy enwog am ei gyfraniad at sefydlu aelwydydd yr urdd, a'r gwaith da a wnaeth gyda Gwersyll yr Urdd, Llangrannog, gwersyll a oedd mor agos at ei galon nes iddo ysgrifennu cyfrol o foliant amdano o'r enw Mein Kampf.
Hitler yn amlwg siomedig gyda safon y gystadleuaeth wrth iddo draddodi beirniadaeth y Goron yn Eisteddfod Llandudno
Nath y peth 'neud ifi wyrthin ta p'un i