Tudalen 1 o 2

Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 2:32 am
gan Kez
A oes rhywun wedi dod ar draws y wefan hon o'r blaen http://cy.uncyclopedia.org.uk/wiki/Hafan

Dyma'r esboniad y tu ol iddo fe:

Gwyddoniadur - neu encyclopedia - yw'r Celwyddoniadur, fel ein cyfaill annwyl y wicipedia, ond yn llai o stress. Mae hwn yn gyfle i ddianc rhag obsesiwn wicipedia gyda ffeithiau, cywirdeb a thegwch. Yn y Celwyddoniadur mae pethau eraill pwysicach na'r rhinweddau a nodwyd; yn wir nid yw cywirdeb ffeithiol yn rhywbeth yr ydym yn anelu tuag ato o gwbl. I'r gwrthwyneb, ein nod yw darparu cymaint o wybodaeth anghywir, camarweiniol a gwallus ag sy'n bosibl. Dyddiau cynnar yw hi, ond gyda dyfalbarhad a'ch cymorth chi, y gobaith yw y gallwn greu adnodd cwbl ddibwrpas ar gyfer y Gymru fodern

Dyma'r cofnod ar Adolf Hitler:

Unben yn yr Almaen oedd Adolf Hitler, a fu'n gyfrifol am farwolaeth miliynau o bobl ar ddechrau'r ail ryfel byd. Ennodd hyn enw drwg iddo ledled y byd, ond yng Nghymru mae'n fwy enwog am ei gyfraniad at sefydlu aelwydydd yr urdd, a'r gwaith da a wnaeth gyda Gwersyll yr Urdd, Llangrannog, gwersyll a oedd mor agos at ei galon nes iddo ysgrifennu cyfrol o foliant amdano o'r enw Mein Kampf.

Delwedd
Hitler yn amlwg siomedig gyda safon y gystadleuaeth wrth iddo draddodi beirniadaeth y Goron yn Eisteddfod Llandudno


Nath y peth 'neud ifi wyrthin ta p'un i :)

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 8:40 am
gan Hogyn o Rachub
O diar, o nabod faint o bitchy ydi'r Cymry Cymraeg gallai hwn droi'n draed moch!


(All rhywun gyfrannu? :D )

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 8:52 am
gan Duw
Mae'n rhaid bod hwn yn derbyn sylw pawb - yr adnodd pwysicaf to! Ffili aros!

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 9:14 am
gan Cymro13
Da iawn - Odd ishe laff arna i ar fore Dydd Iau

Mwy o erthyglau plis :winc:

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 10:23 am
gan Rhys Llwyd
Gwych!

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 12:04 pm
gan Kez
Hogyn o Rachub a ddywedodd:O diar, o nabod faint o bitchy ydi'r Cymry Cymraeg gallai hwn droi'n draed moch!


(All rhywun gyfrannu? :D )


Wi'n siwr y gellid di gyfrannu rhwybeth at y cofnod ar Bethesda, Hogyn. Wi'n credu ei fod e ar agor i bawb gyfrannu ond wn i'm pwy ddechreuodd e.

Delwedd

Mae Bethesda yn enghraifft o kibbutzim ym Mhalasteina

Cafodd ei greu gan grwp o chavs Iddewaidd pan aethon nhw i'r Dwyrain Canol ar ol cael i erlid gan y Hitler Youth yn Urdd Gobaith Cymru. Nawr mae tua cant o chavs yn byw ar y kibbutzim ac mae gan pob un yr un Mam.

[golygu] Prif Cnydau Bethesda
Canabis

Stella Artois

Orenau

Afalau

Cerddoriaeth rap sbwriel

Wedi dod o "http://cy.uncyclopedia.org.uk/wiki/Bethesda"

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 12:11 pm
gan sian
Kez a ddywedodd:Wi'n credu ei fod e ar agor i bawb gyfrannu


Gobeithio na wneith 'na ormod o bobol gyfrannu - mae angen dawn arbennig i sgrifennu pethe fel hyn - ac mae honno'n ddawn brin!

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 1:26 pm
gan Kez
sian a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Wi'n credu ei fod e ar agor i bawb gyfrannu


Gobeithio na wneith 'na ormod o bobol gyfrannu - mae angen dawn arbennig i sgrifennu pethe fel hyn - ac mae honno'n ddawn brin!


Pych, ma’ digon o us wrth y grawn yno’n barod – ma’ na fotwm golygu i newid y cachu. Gad i’r plant gal hogi eu harfau – wnaiff e stopid nhw rhag wara biti ar y wicipedia go-iawn wedyn :winc:

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 6:54 pm
gan osian
Ffansi rhoi cofnod john ac alun arno (dwi di cadw'r un wicipedia go iawn), sut mae cyfrannu?

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 7:52 pm
gan Mali
Well i ti frysio Osian . Mae 'na rywun wedi cyfrannu'n barod ar gyfer yr adran Canu Gwlad.
:lol: