Tudalen 2 o 2

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Gwe 20 Meh 2008 3:03 pm
gan osian
:lol:

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Sad 21 Meh 2008 12:13 pm
gan sanddef
Kez a ddywedodd:A oes rhywun wedi dod ar draws y wefan hon o'r blaen http://cy.uncyclopedia.org.uk/wiki/Hafan


Do. Nes is sylwi ar ei ddisgrifiad o'r Gymraeg dros fis yn ôl

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Llun 07 Gor 2008 7:55 pm
gan Cwlcymro
Dreulish i oes yn neud y rhei "Welsh Language" "Wales" a "Cardiff" yn y fersiwn Saesneg, dwi'n trio mynd nol bob hyn a hyn i dacluso nhw fyny (cal gwarad o'r "HA HA HA YOU SHAG SHEEP") etc!)

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2008 11:43 pm
gan Kez
Dyma erthygl dda am Ysgol Gyfun Rhydfelen a fydd yn canu cloch gida unrhyw un sydd a chysylltiad a'r ysgol - a nace fi sgrifenws hi os oes rhywun yn ama bo fi'n hysbysebu stwff fi ar y maes. Ma'n son am broblema'r ysgol a hefyd y bobl enwog(ish) a aeth trwy ei drysau.

http://cy.uncyclopedia.org.uk/wiki/Ysgol_Gyfun_Rhydfelen

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Gwe 28 Tach 2008 10:52 pm
gan Duw
O Meical J. Crist! Mae'n rhy gormod!

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Sad 14 Chw 2009 6:53 pm
gan Ffrinj
O'n i wrth fy modd gyda'r fersiwn Saesneg ac o'n i mor falch i weld fod rhywun wedi dechre un yn y Gymraeg!
Ddaru'r erthygl ar Caradog Prichard neud imi chwerthin.

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Sad 14 Chw 2009 11:42 pm
gan sian
Ffrinj a ddywedodd:Ddaru'r erthygl ar Caradog Prichard neud imi chwerthin.


Wnaeth yr un ar argyfwng gwacter ystyr i mi synfyfyrio.

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Sul 15 Chw 2009 1:29 pm
gan Josgin
Dyma'r dychan doniolaf i mi ddarllen ers tro, ers ' lol ' (heddwch i'w lwch) ! ! .

Re: Y Celwyddoniadur

PostioPostiwyd: Iau 25 Gor 2013 4:26 am
gan llwy-ar-lawr
Dw i'n gwybod fod yr edau 'ma wedi marw ond does dim eisiau arna fi bostio edau newydd - basai hynny'n sbamio dw i'n meddwl. Mae'n ddrwg gyda fi am unrhyw gamgymeriadau ieithyddol (dw i'n ddysgwr). Hefyd dyma fy mhost cyntaf yma.

Ar hyn o bryd mae un defnyddiwr Celwyddoniadur sy'n weithgar a sy'n siarad Cymraeg, sef fi, ac mae 82 erthygl gyda ni. Mae'r wici yn anweithgar (ydy hyn yn air?) ac yn fach. Oes rhywun yma sy eisiau cyfrannu? Dw i'n ysgrifennu erthyglau o dro i dro ond i wneud wici yn fyw mae angen mwy o ddefnyddwyr nag un yn cyfrannu, yn arbennig pan mae'r defnyddiwr yn ddysgwr fel fi.

Mae'n haws iawn i olygu Celwyddoniadur. Mae'r testun isod yn dod o Wicipedia ond mae'n addas ar gyfer Celwyddoniadur hefyd:

A wyddoch chi? Yn ogystal â darllen y gwyddoniadur, gallwch ein cynorthwyo i'w ddatblygu a'i wella! Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl drwy glicio ar y gair "Golygu" ar ei brig. Os nad ydyw'n bodoli eto, gallwch greu un newydd.