Tudalen 1 o 1

Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 04 Mai 2009 7:14 pm
gan Duw
Dwi newydd orffen cyfieithu Miro (Democracy Player) 2.1 i'r Gymraeg. Diolch i waith blaenorol gan Huw Jones, Mei Gwilym, Roland Cleaver a Wayne Seex. Ni fydd yn 'fyw' tan bo fersiwn 2.1 yn cael ei rhyddhau. Edrychwch allan amdano.

Beth yw Miro?

cyfieithwyd o blyrb Miro a ddywedodd:Chwaraewr fideo HD rhad ac am ddim yw Miro.
Gall chwarae bron pob ffeil fideo ac mae'n cynnig dros 6,000 sioe TV-gwe a phodlediadau fideo.

Mae gan Miro rhyngwyneb syml, gorjys wedi'i dylunio am fideo HD sgrin-llawn. Fel bo Miro'n lawrlwytho'r rhan fwyaf o fideos, gallwch gymryd y fideos 'da chi, hyd yn oed ar awyren. Yn syml, Miro yw'r ffordd orau o wylio'r holl fideo rydych yn caru.


Dyma fideo YouTube yn rhoi syniad i chi beth mae'n gallu ei wneud:


Re: Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 09 Mai 2009 9:58 am
gan Jac Glan-y-gors
Diolch am y gwaith cyfieithu; edrych ymlaen at gael Miro yn y Gymraeg pan fydd fersiwn 2.1 yn cael ei ryddhau.

Dyma sut mae mynd ati i lwytho Miro yn Ubuntu:

http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/ ... -y-gymraeg

:D

Re: Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 10 Mai 2009 11:38 am
gan Duw
Diolch Jac, gwnaf gyhoeddiad unwaith i 2.1 gael ei rolio allan. Neu falle fyddid yn gwbod cyn fi trwy synaptig?

Re: Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 19 Meh 2009 11:51 am
gan HuwJones
Da iawn ti'r holl waith caled - Chwarae teg.. wnes i rhoi'r gorau i drio cyfieithu'r fersiwn blaenorol yn rhannol oherwydd dwi ddim yn gallu cael Miro i weithio ar fy Mac adref am rhyw rheswm. Felly roedd doeddwn i ddim yn gallu weld sut oedd y dewislenni etc.. yn gweithio i'w cyfieithu'n iawn. (Rhaid i Miro bod yn clasio efo rhywbeth gwirion ar y disg caled?? Wnai aros am y fersiwn newydd a cheisio ei ail lwytho eto). Ond y brif rheswm wnes i rhoi'r gorau i'r cyfieithu yw mod i ddim yn fawr o gyfieithydd!!! felly da iawn bod rhywun sy'n gwybod beth mae nhw'n gwneud wedi mynd a'r maen i'r wal.

Re: Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 19 Meh 2009 8:50 pm
gan Duw
Duw a ddywedodd:Diolch i waith blaenorol gan Huw Jones, Mei Gwilym, Roland Cleaver a Wayne Seex.


Diolch i ti 'ed Huw - gwnest dorri asgwrn cefn y gwaith i mi.

//GOLYGU

O blydi el, mae mwy i'w cyfieithu! O be dwi'n gallu gweld mae fersiwn 2.5 ar y gweill nawr! Heb rhyddhau 2.1 eto chwaith. Wel dwi wedi cyfieithu'r 16 term ychwanegol. Blincin poen - mae hyn wedi digwydd sawl gwaith nawr. Ti'n meddwl bo ti wedi cwpla ac mae'r diawled yn symud y golposts! :rolio:

Re: Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 9:57 am
gan HuwJones
.. dwi'n gwybod yn union beth wyt ti'n meddwl, wnes i gyfieithu Limewire, a sawl tro roeddwn agos iawn at gyrraedd y diwedd a wnaethon nhw ychwanegu gannoedd o linellau ychwanegol.

Re: Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 28 Gor 2009 6:51 pm
gan Jac Glan-y-gors
Duw a ddywedodd:Diolch Jac, gwnaf gyhoeddiad unwaith i 2.1 gael ei rolio allan. Neu falle fyddid yn gwbod cyn fi trwy synaptig?


Mi ddoth mewn i'r cronfeydd meddalwedd heddiw (Ubuntu 8.04).

Diolch eto am ei gyfieithu :D

Re: Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 29 Gor 2009 7:40 am
gan Duw
Diolch Jac.

Mae Miro wedi mynd o 2.0 yn syth i 2.5. Mae'n edrych yn dda. Os ydy unrhyw un yn darganfod gwallau neu dermau sydd angen eu gwella, gallwch gyfrannu i'r brosiect ar miro ar safle launchpad. Bydd angen cofrestru gyda lauchpad yn gyntaf, ond proses digon syml yw hon.

Dyma'r dudalen i'w llwytho i lawr os ydych yn defnyddio Windows:

http://www.getmiro.com/download/

Re: Miro 2.1 yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 01 Awst 2009 9:05 am
gan Duw
Anghofiais i ddweud, bod angen i chi newid iaith yr OS (Vista/XP) i'r Gymraeg i gael y pecyn i ymddangos yn y Gymraeg.