Miro 2.1 yn y Gymraeg
Postiwyd: Llun 04 Mai 2009 7:14 pm
Dwi newydd orffen cyfieithu Miro (Democracy Player) 2.1 i'r Gymraeg. Diolch i waith blaenorol gan Huw Jones, Mei Gwilym, Roland Cleaver a Wayne Seex. Ni fydd yn 'fyw' tan bo fersiwn 2.1 yn cael ei rhyddhau. Edrychwch allan amdano.
Beth yw Miro?
Dyma fideo YouTube yn rhoi syniad i chi beth mae'n gallu ei wneud:
Beth yw Miro?
cyfieithwyd o blyrb Miro a ddywedodd:Chwaraewr fideo HD rhad ac am ddim yw Miro.
Gall chwarae bron pob ffeil fideo ac mae'n cynnig dros 6,000 sioe TV-gwe a phodlediadau fideo.
Mae gan Miro rhyngwyneb syml, gorjys wedi'i dylunio am fideo HD sgrin-llawn. Fel bo Miro'n lawrlwytho'r rhan fwyaf o fideos, gallwch gymryd y fideos 'da chi, hyd yn oed ar awyren. Yn syml, Miro yw'r ffordd orau o wylio'r holl fideo rydych yn caru.
Dyma fideo YouTube yn rhoi syniad i chi beth mae'n gallu ei wneud: