Tudalen 1 o 1

Blog gorau Cymraeg yn hanes y byd. Ffaith!

PostioPostiwyd: Gwe 22 Mai 2009 10:35 pm
gan Hedd Gwynfor
Blog Cymraeg gore erioed heb os - http://ceriwyn.blogspot.com/ - dim diweddariad ers cwpwl o fisoedd, ond y cynnwys yn wych! Dere 'mlaen Kez, mwy o swtff plis! Pa flog Cymraeg sy'n rhif 1 yn eich barn chi?

Re: Blog gorau Cymraeg yn hanes y byd. Ffaith!

PostioPostiwyd: Gwe 22 Mai 2009 10:52 pm
gan sian
Roedd blog y Kymro Kanol yn berl. Mae'n bryd i ni gael rhagor o'i hanes.

Re: Blog gorau Cymraeg yn hanes y byd. Ffaith!

PostioPostiwyd: Gwe 22 Mai 2009 10:58 pm
gan Hedd Gwynfor
Cytuno! Roedd ganddo hyd yn oed grwp Facebook http://www.facebook.com/group.php?gid=5546356540

Re: Blog gorau Cymraeg yn hanes y byd. Ffaith!

PostioPostiwyd: Sad 23 Mai 2009 11:25 am
gan Kez
Hedd Gwynfor a ddywedodd: Pa flog Cymraeg sy'n rhif 1 yn eich barn chi?


Un FI !!!

Ot ti'n feddw yn dychra'r edefyn 'ma off nithwr Hedd? Ti ariod wedi bod yn neis wrtho i o'r blan ac os bydd pobol yn dychra slago fi off o'i herwydd, 'na i dy ladd di. Diffyg sylwedd odd dy farn di am y blog y tro diwetha - nid bo fi'n anghytuno, cofia :rolio: :rolio: :D

Re: Blog gorau Cymraeg yn hanes y byd. Ffaith!

PostioPostiwyd: Iau 28 Mai 2009 10:05 pm
gan cymro1170

Re: Blog gorau Cymraeg yn hanes y byd. Ffaith!

PostioPostiwyd: Sad 30 Mai 2009 3:23 pm
gan Kez
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Blog Cymraeg gore erioed heb os - http://ceriwyn.blogspot.com/ - dim diweddariad ers cwpwl o fisoedd, ond y cynnwys yn wych! Dere 'mlaen Kez, mwy o swtff plis! Pa flog Cymraeg sy'n rhif 1 yn eich barn chi?


Fi newydd neud cofnod blog arbennig iti cariad er bo fi wedi reitero am bo fi'n ffili bod yn arsed :winc:

Man a man ifi iwso'r cyfla ola 'ma pan fo'r edefyn yn fyw i gal bach o hysbysrwydd. Fel arall, wi'm yn cal ffyc all o neb yn ymweld a blog fi :(

Y rheswm yw - ma'n load o shite anwleidyddol gywir a fi'n gwpod 'ny - fi yn, really fi yn - ond smo nhw yn cyn bo nhw'n weld e :lol:

Re: Blog gorau Cymraeg yn hanes y byd. Ffaith!

PostioPostiwyd: Sad 30 Mai 2009 7:07 pm
gan sian
Ddrwg 'da fi glywed am dy drafferthion di, Kez.

Un arall sydd wir werth ei ddarllen yw un Dewi Prysor.

Dw i'n meddwl bod pwy bynnag oedd yn efelychu/parodio/dychan y blogs yn Taliesin mis dwetha wedi methu dal naws hwn yn llwyr. Mae e bron bob amser yn neud i fi lefen.