Tudalen 1 o 1
P46 Cymraeg?
Postiwyd:
Maw 16 Meh 2009 10:05 am
gan Mihangel Macintosh
Dwi angen llenwi P46.
Mae fy nghyflogwyr wedi anfon un Saesneg atai ond dwi isho llenwi un Cymraeg. Dwi di gwglo am un a methu gweld fersiwn ar wefan Cyllid y Wlad.
Rhywun yn gwbod os oes modd islwytho un o'r we neu oes rhaid i fi ffonio Cyllid y Wlad?
Re: P46 Cymraeg?
Postiwyd:
Maw 16 Meh 2009 1:25 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
ffonia cyllid a thollau cymraeg - 0845 3021489
Re: P46 Cymraeg?
Postiwyd:
Maw 16 Meh 2009 1:29 pm
gan Mihangel Macintosh
Diolch Tracsiwt. Ma nhw'n mynd i postio un i fi.
Ond sa fe ddim yn gwneud mwy o synnwyr bod Cyllid y Wlad yn darparu fersiwn electronig ar lein?
Re: P46 Cymraeg?
Postiwyd:
Maw 16 Meh 2009 1:43 pm
gan sian
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:ffonia cyllid a thollau cymraeg - 0845 3021489
Cofia ofyn am enw pwy bynnag ti'n siarad â nhw a'u ffonio nhw eto cyn hir os ydyn nhw'n addo anfon ffurflen a honno ddim yn cyrraedd. Neu bod nhw'n anfon y ffurflen anghywir.
Cadw gofnod o bob peth.
Grrr!!
Re: P46 Cymraeg?
Postiwyd:
Maw 16 Meh 2009 1:50 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
sian a ddywedodd:Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:ffonia cyllid a thollau cymraeg - 0845 3021489
Cofia ofyn am enw pwy bynnag ti'n siarad â nhw a'u ffonio nhw eto cyn hir os ydyn nhw'n addo anfon ffurflen a honno ddim yn cyrraedd. Neu bod nhw'n anfon y ffurflen anghywir.
Cadw gofnod o bob peth.
Grrr!!
christina 'di 'r hogan sy'n atab. dwi di siarad 'efo 'i ugeinia' o weithia.
Re: P46 Cymraeg?
Postiwyd:
Maw 16 Meh 2009 1:59 pm
gan sian
Dw i wedi cael trafferth i gael be dwi ishe wrthyn nhw ddwywaith.
Maen nhw'n glên iawn ond yn anfon y pethe anghywir neu ddim yn eu hanfon nhw o gwbwl.
Dw i ddim yn meddwl mod i wedi siarad â Christina chwaith.
Re: P46 Cymraeg?
Postiwyd:
Gwe 19 Meh 2009 10:12 am
gan Mihangel Macintosh
Nes i ffonio dydd mawrth a di'r bali ffurflen byth wedi cyrraedd!