Tudalen 1 o 2

www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Sad 04 Gor 2009 4:39 pm
gan Azariah
Beth mae pobl yn meddwl o'r safle hon?

Wnes i ymuno ar ol i nifer o gydweithwyr holi a oeddwn yn aelod. Dwy'i ddim yn un mawr am y busnes rhwydweithio cymdeithasol 'na ond efallai bod y lle 'ma yn gallu bod o les i rywun sy'n chwilio am waith.

Does dim grwp gweithredol trwy gyfrwng y Gymraeg yn bodoli ar hyn o bryd - er bod rhywun wedi sefydlu un o'r enw "MEWN Cymraeg" yn diweddar ( sai'n meddwl llawer o'r enw ).

http://www.linkedin.com

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 8:49 pm
gan Shadrach
Azariah a ddywedodd:Beth mae pobl yn meddwl o'r safle hon?

Wnes i ymuno ar ol i nifer o gydweithwyr holi a oeddwn yn aelod. Dwy'i ddim yn un mawr am y busnes rhwydweithio cymdeithasol 'na ond efallai bod y lle 'ma yn gallu bod o les i rywun sy'n chwilio am waith.

Does dim grwp gweithredol trwy gyfrwng y Gymraeg yn bodoli ar hyn o bryd - er bod rhywun wedi sefydlu un o'r enw "MEWN Cymraeg" yn diweddar ( sai'n meddwl llawer o'r enw ).

http://www.linkedin.com


Rwy wedi ymuno a'r "grwp rhwydweithio Cymraeg" hwn - gan ddyblu'r aelodaeth! Mae un arall wedi ymuno ers hynny. Dwy' i ddim yn un mawr am rhwydweithio ond byddai'n beth da gweld rhyw fath o bresenoldeb i'r Gymraeg. Mae 'na nifer o grwpiau Cymreig ond, hyd y gwela i dim byd trwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol. Oes 'na ddefnyddwyr LinkedIn ar Maes-E?

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 8:59 pm
gan sian
Pedwar ohonon ni nawr!

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 9:22 pm
gan Del
Dim byd i'w wneud â'r pwnc dan sylw (a dim trolio chwaith, gobeithio) ... jyst digwydd sylwi ar enw'r ddau gyfrannwr cyntaf i'r drafodaeth - Azariah a Shadrach. Cyd-ddigwyddiad, tybed???

gw. Azariah Shadrach (1774-1844) yn y Bywgraffiadur.

Dyna i gyd ... fe gewch chi fynd nôl i'r drafodaeth nawr; over and out!

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 9:31 pm
gan sian
Ie, fe wnaeth hynny fy nharo i hefyd :D

Beth bynnag - o ran LinkedIn, dw i'n aelod ers rhai misoedd ond heb gael achos i'w ddefnyddio - a neb wedi cysylltu â mi trwyddo chwaith.

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 5:54 pm
gan Shadrach
sian a ddywedodd:Ie, fe wnaeth hynny fy nharo i hefyd :D

Beth bynnag - o ran LinkedIn, dw i'n aelod ers rhai misoedd ond heb gael achos i'w ddefnyddio - a neb wedi cysylltu â mi trwyddo chwaith.


Rhai miniog eich meddwl ych chi!

Shadrach yw fy nghyfenw - fel y cewch weld ar LinkedIn - a theimlo roeddwn i y byddai'n ddoethach defnyddio enw go iawn i hyrwyddo grwp o'r fath.

Ac na, dwy' i ddim yn gwybod a ydw i'n perthyn

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 8:33 am
gan Rhys
Wedi clywed lawer o sôn am y wefan ond didm yn dallt beth yw ei bwynt, a ddim rili eiiau agor cyfrif newydd ar wasanaeth arall mondi w eld tu ôl i'r lleni.

Sut mae'n gweithio?

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 9:30 am
gan Duw
Rhys a ddywedodd:Wedi clywed lawer o sôn am y wefan ond didm yn dallt beth yw ei bwynt, a ddim rili eiiau agor cyfrif newydd ar wasanaeth arall mondi w eld tu ôl i'r lleni.

Sut mae'n gweithio?


Ditto. Gwefan arall fel Facebollocks yw e?

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 9:38 am
gan sian
Duw a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:Wedi clywed lawer o sôn am y wefan ond didm yn dallt beth yw ei bwynt, a ddim rili eiiau agor cyfrif newydd ar wasanaeth arall mondi w eld tu ôl i'r lleni.

Sut mae'n gweithio?


Ditto. Gwefan arall fel Facebollocks yw e?


Peth cysylltiadau busnes yw e. Digon di-fudd hyd yma.

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Maw 01 Medi 2009 9:37 pm
gan Shadrach
Rhys a ddywedodd:Wedi clywed lawer o sôn am y wefan ond didm yn dallt beth yw ei bwynt, a ddim rili eiiau agor cyfrif newydd ar wasanaeth arall mondi w eld tu ôl i'r lleni.

Sut mae'n gweithio?


Rwy'n sinig lle mae safleoedd o'r math yn y cwestiwn. Dwy'i ddim yn eu defnyddio fel arfer. Eto mae canran sylweddol a chynyddol o 'nhgydweithwyr mewn sawl cwmni dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn aelodau o'r un yma. Rwy'n gweithio fel contractiwr ac felly mae'r posibilrwydd y bydd yn dod a gwaith i fi rhywbryd yn ddigon o rheswm i ymuno. Wedi dweud hynny dwy'i ddim a werthu'r syniad i neb - hyrwyddo grwp Cymraeg newydd ar y safle oeddwn i nid hyrwyddo LinkedIn ei hun fel y cyfryw.

Ynglyn a sut mae'n gweithio:- Yn gyntaf mae rhywun yn (gorfod) cofrestru a rhestru'r cwmniau mae e wedi gweithio iddyn nhw, wedyn gwahodd cydweithwyr a chyn-cydweithwyr i ymuno a'i rwydwaith ( mae modd llwytho cysylltiadau o feddalwedd e-bost ac mae'r system yn gallu awgrymu pobl sydd wedi gweithio i'r un cwmniau ). Mae 'na grwpiau ar gyfer ieithoedd cyfrifiadurol, asiantaethau, cwmniau a diddordebau eraill sy'n cynnig ffordd arall o ddod o hyd i aelodau newydd. Y gobaith yw, siwr o fod, bod datblygu rhwydwaith fawr yn mynd i ddod a gwaith neu fusnes i rhywun yn y pen draw ( neu jyst helpu i gadw mewn cysylltiad er difyrrwch ).

Mae rhywun oedd yn gweithio 'da fi dros ddegawd yn ol yn ateb nifer fawr o gwestiynau ar grwpiau sy'n trafod pethau fel gweinyddu systemau ac arsefydlu meddalwedd ar weinyddwyr - synnwn i ddim y bydd e'n cael gwaith weithiau gan bobl sydd wedi gweld ei gyfraniad dros amser hir.

Pe byddai rhywun yn gweithio rhywle oedd ag angen sgiliau penodol ac yn gwybod am unigolyn gyda'r sgiliau yn ei rhwydwaith oedd yn digwydd bod ar gael gallai hynny fod yn fuddiol i bawb.

Ar y llaw arall 'fallai fod e'n dda i ddim.

Yn sicr lle mae'r Gymraeg yn y cwestiwn rwy wedi gweld llawer mwy o grwpiau yn cael eu sefydlu na sy'n cael eu defnyddio