Tudalen 2 o 2

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Iau 03 Medi 2009 10:43 am
gan William312
Fe ddechreuais MEWN Cymraeg ar Linked In fel modd o alluogi aelodau Linked In sy'n medru Cymraeg i gysylltu gyda'i gilydd. Mae'n siwr y bod yna gryn dipyn yn medru Cymraeg. Prin yw'r aelodaeth ar y foment, ond mae yna 9 wedi ymuno'r wythnos diwthaf, felly mae pethau'n gwella. Diolch i Shadrach am ei help yn hynny o beth. Hefyd, dwi wedi dechrau gwneud rhywfaint o ymdrech i ledaenu'r gair hefyd. O ran yr enw, dewisais MEWN Cymraeg am mai grwp ar Linked IN ydi o, ac i bywslesio'r ffaith mai Cymraeg ydi cyfrwng y grwp (h.y. grwp Cymraeg ydi o, yn hytrach na Chymreig). Felly, os dach chi ar Linked IN, ymunwch. Gyda lwc, fe ddaw yn ddefnyddiol iawn yng nghwrs amser.

Os dach chi ddim yn gyfarwydd efo Linked In, lle rhwydweithio busness ydi o. Os mai rhwydweithio cymdeithasol ydi'r nod, mae na lefydd gwell o lawer.

Re: www.linkedin.com

PostioPostiwyd: Maw 15 Medi 2009 2:10 pm
gan William312
Mae'r grwp yn profi yn boblogaidd gyda dros 60 o aelodau hyd yn hyn - 30 yn yr wythnos diwethaf. Os oes rhywun isio ymuno, cliciwch ar http://www.linkedin.com/groupRegistration?gid=2070741