Tudalen 1 o 1

Ffrindiau Facebook

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 4:01 pm
gan Kez
Be ti fod i neud pan fo pobol yn moyn bod yn ffrindia iti ar y facebook 'na a 'sda ti ddim clem pwy yn nhw?

Wi'm yn neud ffyc all gida facebook a gwed y gwir - mond edrych arno fe o bryd i'w gilydd. Fi ymunais a'r peth o dan Kez Jones sbelan yn ol nawr er mwyn cal pip arno, jwst i weld beth odd yr holl ffws. Nid Kez yw enw iawn fi ac dodd dim llun yno, ac felly own i'n ddigon bolon gida'r 1 ffrind odd da fi arno fe. Nath y ffrind 'ma roi llun lan ohono i ar y dychra ac odd popith yn iawn hyd yn ddiweddar o'erwydd nag odd y llun yn ymddangos wrth fy enw. Am ryw reswm, ma'r llun 'ny yn ymddangos nawr ac fi'n cal ceisiadau gin bobol i fod yn ffrind ifi - ac wi'm gwpod pwy ffwc yn nhw.

Yn anffodus, ma trwyn mawr 'da fi ac ifi'n cal pobol yn sgrechin petha fel Pete Townsend arno i wrth iddynt baso yn eu ceir - ma fe'n wara yn y Rolling Stones ac ma trwyn mawr dag e 'ed (ma'n bosib bo fe'n 'pido' yn ol wicepedia hefyd ond fi alla i sicrhau chi nag w i'n un o'r rhain). Ma pobol erill yn sgrechin Pinocchio arno i mas o'r car hefyd, ond wi'n gwpod bo nhw jwst yn cymeryd y piss go-iawn. Ta p'un, wi'n cal lot o geisiada gin bobol sydd moyn bod yn ffrind ifi yn ddiweddar - ac fi'n siwr bo nhw'n moyn bod yn ffrind i Pete Townsend ac nid fi.

Odi fe'n Ok i wrthod pobol ne a odi fe anghwrtais iawn? Wi'n gweld pobol yno sydd a chant a mil o ffrindiau, ac ifi'n napod amall un, ac alla i ddim cretu bod 'da nhw un ffrind teidi - heblaw am gant a rhagor.

Re: Ffrindiau Facebook

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 2:11 pm
gan ger4llt
Kez a ddywedodd:Be ti fod i neud pan fo pobol yn moyn bod yn ffrindia iti ar y facebook 'na a 'sda ti ddim clem pwy yn nhw?


Yn gynta', alli di newid dy ddewisiadau preifatrwydd - alli di ddewis i gael dim ond dy lun yn dangos wrth chwilio, dim llun o gwbl, neu peidio ymddangos o gwbl yng nghanlyniadau chwilio. Wedyn, yr unig ffordd all pobl weld dy enw yw os yw rhywun yn mynd drwy restr ffrindiau ffrind i chdi. 'Runig ffordd alli di gael mwy o ffrindia' wedyn yw drwy ychwanegu nhw dy hun.

Kez a ddywedodd:Odi fe'n Ok i wrthod pobol ne a odi fe anghwrtais iawn?


Wel os ti'm yn ffrindia' efo nhw yn y byd go iawn, na byth yn 'i gweld nhw, dydyn nhw ddim am ddod fynu yn y stryd atat ti "Ei! Nesdi anwybyddu fi ar Facebook!" nadyn? :winc: Wel, dibynnu... :P

Re: Ffrindiau Facebook

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 3:00 pm
gan dawncyfarwydd
Wedi dy adio, Kez.

Re: Ffrindiau Facebook

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 4:02 pm
gan Kez
Diolch Ger4llt - fi'n credu 'na i jyst adael unrhyw ffycar miwn nawr. Dim ond un tro netho i ofyn i rywun fod yn ffrind facebook ifi ac nath y ffycar 'na fy ngwrthod i, ac wi ddim isha bod yn shithead fel fe!! (Eilir Tomos Davies o Gaerfyrddin yw ei enw fe ac ma'n gwitho fel storeman yn Lidls ar bwys Gorseinon, felly paid a'i dderbyn e fel ffrind - ma'n shithead o'r radd flaena ac ots be wetiff e, dyw hi ddim yn wir bo fi wedi cysgu gida'i war e; ma da fi lot gwell tast na 'ny; ma'r boi jyst yn paranoid maniac)

Fi netho i drial cal gwarad o'r llun ond gwasgas i rywpath rong a dim ond nawr ma'r llun yn dod lan (?!) Sdim ots, fi wedi cal nose-job ers i'r llun 'na gal ei dynnu ac fi'n lot bertach nawr - fi dria i gal gwarad o'r llun rywbryd 'to pan fydda i'n diall shwt.

Diolch iti hefyd Dawncyfarwydd - croeso ffrind newydd fi! Nawr fi'n cal gweld dy broffeil a chal gwpod lot mwy amdanot ti na ti'n gwpod amdano i :winc:

Wi ariod wedi ysgrifennu ar y ffycin peth a gwed y gwir, ond mae da fi un ex-shag arno fe o'r Eidal a'i negesuon hi yn yr Eidaleg sydd yn popo lan byth a hefyd, so dyna'r unig beth gwelid di fel arfer. Diolch byth, ma hi ar ei gwyliau ar hyn o bryd ac ma rhaid nag os compiwtar gida ddi!!

Wi'n gweld y facebook 'ma bach yn rybish a gwed y gwir - ne falla bo fi ddim yn ei diall hi'n iawn!

Re: Ffrindiau Facebook

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 4:06 pm
gan Duw
Wedi cael llawn bola o Facebollocks. Tries i fod yn blydi glefyr wrth ymuno fel alias ar ben fy hen gyfrif. Nawr dwi ffili mynd mewn fel yr hen berson gwreiddiol. Pah! Stim ffrindie 'da fi beth bynnag. :rolio:

Re: Ffrindiau Facebook

PostioPostiwyd: Mer 11 Medi 2013 9:53 am
gan timpane
Runig ffordd alli di gael mwy o ffrindia' wedyn yw drwy ychwanegu nhw dy hun. :rolio: :rolio:

Re: Ffrindiau Facebook

PostioPostiwyd: Mer 11 Medi 2013 1:11 pm
gan ceribethlem
'Sdim Witch hunt da wedi bod ar Facebook ers tro byd. Fi'n siwr buodd un am y bachan 'na bant o Corrie-nation street. Tybed shwt ma nhw'n timlo nawr.