Tudalen 1 o 1

Prosiect casglu #hanesywegymraeg

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2013 10:38 pm
gan Rhodri Nwdls
Wel, ma hyn yn hwyl. Ma'r gwenogluniau bach na ar y dde fel hen ffrindiau! :D

Dwi nôl o'r gwyll i sôn wrth y maeswyr am brosiect bach newydd falle byddech chi efo diddordeb i gyfrannu ato.

http://hanesywegymraeg.com yw'r wefan a dyma'r bwriad:

Yn syml, prosiect i adeiladu darlun a llinell amser o hanes y we a’r rhyngrwyd Gymraeg o’ch safbwynt chi, y bobol wnaeth ei ddefnyddio a’i adeiladu.

Mae hon yn hanes wedi ei ffurfio gan bobol y we, y rhithfro, felly mae hwn yn gyfle i ychwanegu beth rydych chi’n teimlo oedd yn gerrig milltir, yn ddigwyddiadau neu brofiadau pwysig yn natblygiad y Gymraeg ar-lein, neu’n gynnwys ar y we oedd yn arwyddocaol un ai’n bersonol i chi, neu’n ehangach.


Gallwch gyfrannu yn yr edefyn yma, neu drwy Twitter/Facebook neu yn syth ar y llinell amser.

Gobeithio byddwch chi efo diddordeb mewn cyfrannu!

Er mwyn postio ar y llinell amser, defnyddiwch y cyfrinair 'rhithfro'.

Delwedd