Mae Suw Charman wedi postio <a href="http://chocnvodka.blogware.com/blog/_archives/2004/8/8/120565.html">cofnod sain</a> (yr un cyntaf Cymraeg yn y byd?) i'w blog ynglŷn â beth mae hi'n galw y blogosffer Cymraeg. Mae'n annodd ei dyfynnu, ond jist y cofnod yw bod hi am <i>wneud rhywbeth</i> i hybu'r Gymraeg fel iaith blogio, ond dydy hi ddim am wneud ar ei phen ei hunan, a dydy hi ddim yn siwr <i>beth</i> ei wneud.
Dyn ni wedi trafod blogs Cymraeg yma ar y maes sawl gwaith, ond nid yn y seiat hwn, ac mae hyn yn berthnasol i ddyfodol yr iaith, dw i'n credu. Pam mae Cymry wedi bod mor araf i sylweddoli posibiliadau'r we? Cofiwch, dw i ddim yn cymharu Cymry â siaradwyr Saesneg yma: <a href="http://www.gulli.is/blogs/">dyma rhestr o 5000 o flogiau yn Islandeg</a>, iaith llawer llai na'r Gymraeg. Mae pawb a'i gi â blog yn Gwlad yr Iâ. Pam nad yw hyn yn wir yng Nghymru?