Blogio yn y Gymraeg - pam dydy pawb ddim yn wneud?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aran » Mer 25 Awst 2004 4:38 pm

Dyddgu a ddywedodd:Pe bawn i'n creu weflog Cymraeg newydd ar LJ, pwy fyddai'n gwybod!


Os wyt ti wedi bod ar Sgwarnflog, ti wedi gweld rhestr y RhithFro - creu di flog Cymraeg, a bydd Nic yn dy rhoi di yn y RhithFro, a gei di ymweliadau gan rhai o flogwyr mwyaf <strike>amheus</strike> parchus Cymru...

Os wyt ti'n penderfynu rhoi cais arni, rho wybod...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan nicdafis » Mer 25 Awst 2004 4:44 pm

Heblaw am lon dwrn o bobl o'n i'n gweithio gyda nhw tra'n dysgu yng Nghaerdydd, a'r bobl yma yn Llangrannog a oedd yn ffrindiau fy nghariad cyn i mi symud yma yn '97, mae bron pawb dw i'n nabod trwy gyfrwng y Gymraeg dw i wedi dod i'w nabod trwy'r we. Yr unig pobl ar maes-e o'n i'n nabod cyn y maes yw cynyr a sleepflower, ac hynny ar dermau "nodio ar draws y dafarn".

Dw i ddim yn siwr beth dw i'n trial dweud, ond dw i'n trial dweud rhywbeth. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan eusebio » Mer 25 Awst 2004 5:01 pm

Mae'n siwr ei fod yn rhy hwyr i fy sylwadau i ymddangos fel Eusebio yn hytrach na fy enw go iawn ...?

:(
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Rhydfryd II » Mer 25 Awst 2004 5:19 pm

A fydd na ryw fath o gwmni blogio Cymraeg ar y wê yn y dyfodol? Ella fod hyn yn rwbath hollol anrealistig ar y funud, dwi'm yn gwbod digon am flogio i allu deud...
"Neido fan na fel samwn, chi'n gwbo' shwt ma' samwn yn neido!"
Dai Davies
Rhithffurf defnyddiwr
Rhydfryd II
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 10 Gor 2004 9:20 pm
Lleoliad: Easter Island

Postiogan Aran » Mer 25 Awst 2004 11:47 pm

Rhydfryd II a ddywedodd:A fydd na ryw fath o gwmni blogio Cymraeg ar y wê yn y dyfodol? Ella fod hyn yn rwbath hollol anrealistig ar y funud, dwi'm yn gwbod digon am flogio i allu deud...


dim am yn hir iawn iawn, os o gwbl... mae'r cwmniau mawr sy'n cynnig fersiynau fel GreyMatter ayyb yn debyg o fod yn anelu at gael pres hysbysebion... sydd yn golygu lefelau traffig uchel dros ben... ac wedyn mae gen ti Blogger sydd wedi mynd yn fabi i Google sydd am gymryd drosodd y bydysawd...

ond fel dw i wedi deud mewn edefyn arall, mae 'na opsiwn Cymraeg am ddim ar gael rwan - manylion at http://www.blogsgwarnog.cymrurydd.com - ond dim ond ar gyfer pobl sydd o ddifri am flogio, plis... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Dyddgu » Iau 26 Awst 2004 9:58 am

[quote="Aran
Os wyt ti'n penderfynu rhoi cais arni, rho wybod...[/quote]

...A dyma ni, felly, fy Ngwenynflog!
http://www.livejournal.com/community/dyddgu_cymraeg/ :wps: :)
Rhithffurf defnyddiwr
Dyddgu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 28 Gor 2004 2:49 pm
Lleoliad: Rhydychen

Postiogan nicdafis » Sul 29 Awst 2004 4:49 pm

Cofnod Saesneg ar yr angen am fwy o flogiau Cymraeg ar <a href="http://www.pale.org/found/index.cgi?archive-082004.htm#1673">Found</a> (mae Jim yn ddysgwr, os dw i'n cofio'n iawn).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw 31 Awst 2004 11:53 am

<a href="http://found.pale.org/index.cgi?archive-082004.htm#1714">Cyfraniad arall diddorol</a> (yn Saesneg) gan <a href="http://found.pale.org/">Jim Figgis</a>. Cytunaf â phob gair.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys » Iau 14 Hyd 2004 2:02 pm

Sylwadau tebyg (eto'n Saesneg) gan Sue Charman am flogio'n Gymraeg mewn blog am dwf blogiau yn iaith Persiaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Geraint » Mer 03 Tach 2004 12:43 pm

Ar ol y ffwydriad diweddar o flogiau Cymraeg, mae'r diwygiad wedi arafu, mae yna fwy o fywyd mewn mynwent! Dwi'n gywbod fy mod wedi cael seibainnau hir yn y gorffennol, ond dim ond llond llaw sydd yn blogio yn aml ar hyn o bryd. Gobeithio neith rhai o'r blogwyr newydd ail-gydio ynddo, dewch mlaen nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron