Tudalen 1 o 1

Croeso i'r Rhithfro

PostioPostiwyd: Sul 22 Awst 2004 11:30 am
gan nicdafis
Dw i wedi newid teitl y seiat yma (o "prosiectau aelodau") er mwyn, gobeithio, iddo gael ei ddefnyddio fel lle i drafod y We Gymraeg yn fwy cyffredinol. Mae'n dal yn lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd gawn ni drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen.